English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Creuddyn ac Arllechwedd – Ardal 11 Chwarel Penmaenmawr PRN 15813


SH 700760 yn edrych i'r de. Yn dangos yr orielau, y ffordd bresennol a llawer o weithfeydd y chwarel, peth creiriol a pheth yn cael ei ddefnyddio o hyd, yn ei dirwedd ar gyrion mynydd heb ei amgáu (gogledd) (ardal 24) y tu hwnt (safle'r ffatri fwyelli Neolithig ar gyrion y chwarel tua'r chwith yn y ffotograff)


 

 

Cefndir Hanesyddol

Mae'r gweithfeydd presennol ym Mhenmaenmawr yn parhau traddodiad o chwarelu cerrig sy'n dechrau yn y trydydd mileniwm CC, pan weithiwyd Graiglwyd er mwyn naddu carreg addas i wneud bwyelli. Hwn oedd y trydydd safle cynhanesyddol gwneud bwyelli mwyaf cynhyrchiol ym Mhrydain, ar ôl ffatrïoedd y Great Langdale a Scafell yn Ardal y Llynnoedd ac o gwmpas St Ives yng Nghernyw. Roedd eu cynhyrchion yn cystadlu â'i gilydd mewn marchnadoedd Neolithig ledled yr ynys.

Ym 1833, y mae'r prydlesi cyntaf yn cofnodi i frigiad Penmaenmawr gael ei gweithio yn y dull modern. I gychwyn, roedd y gweithiau'n gyfystyr ag echdynnu deunydd addas o'r llethrau sgri oedd heb eu cryfhau, eu naddu'n setiau, a'u cario yn falast ar longau i Lerpwl. Fe wnaed arolwg o'r pyllau echdynnu cynnar yn rhan o'r arolwg manwl o'r llethrau gogleddol islaw'r Graiglwyd. Ymhen degawd, fe ddatblygwyd dwy chwarel annibynnol, un ar yr ystlys ddwyreiniol, Graiglwyd, a'r llall ar ben pellaf Penmaen yn y gorllewin. Roedd y ddwy'n canolbwyntio ar gynhyrchu cerrig sets, er bod cerrig rhydd i wneud balast yn tyfu yn ei boblogrwydd. Felly, o'r 1890au ymlaen sefydlwyd melinau mathru cerrig, a datblygodd y gwaith ar gynhyrchu mwy o'r nwyddau hyn. Tyfodd ar draul y mentrau cynhyrchu cerrig sets. Ar ddechrau'r ganrif hon, unwyd y ddwy chwarel o dan un cwmni rheoli ac adeiladwyd rheilffordd chwarel i gysylltu'r ddwy. Ar ddiwedd y 1930au rhoddwyd y gorau i gynhyrchu cerrig sets yn chwarel Graiglwyd, ac yn unol â hynny, gadwyd y gweithfeydd ar yr ochr ddwyreiniol yn segur.

Mae'r chwarel bresennol ym Mhenmaenmawr ar ran orllewinol y brigiad ac mae'n cynhyrchu cerrig mân ar gyfer adeiladu ffyrdd a chreu balast i reilffyrdd. Gosodwyd peiriant mathru cerrig newydd ar y safle ym 1983 ac ar hyn o bryd mae'r chwarel yn cynhyrchu 600, 000 tunnell y flwyddyn. Cronfa wrth gefn cynlluniedig y chwarel yw tua 40 miliwn tunnell, sy'n amcangyfrif mai tua 60 mlynedd o oes sydd i'r holl waith. Gan fod chwarelu wedi cael ei ganoli ar ben gorllewinol y brigiad ym Mhenmaen, mae copa'r mynydd wedi'i gostwng tua 400 troedfedd, a dinistriwyd yr holl fryngaer gynhanesyddol ym Mraich y Ddinas mewn gweithred na roddodd fawr o bwys ar archeoleg.

 

Prif nodweddion tirweddau hanesyddol

Incleiniau, gweithfeydd grisiog, peiriant mathru, cloc

Gellir gweld nifer o nodweddion amlwg y chwarel o'r ffordd a'r dref. Maent yn cynnwys yr wyneb cloc anferthol sydd wedi'i osod ar un o finiau storio'r chwarel ddwyreiniol, gweddillion y peiriant mathru cerrig a gyflwynwyd ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a'r gyfres drawiadol o incleiniau. Mae nifer o eitemau peirianyddol hanesyddol wedi goroesi yn y chwarel. Tirluniwyd y chwarel ddwyreiniol yn ystod y 1980au.

 

 

 

Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Creuddyn ac Arllechwedd

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol