English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Creuddyn ac Arllechwedd – Ardal 10 Penmaenmawr/Dwygyfylchi PRN 15811


SH 720763 yn edrych i'r gogledd. Yn dangos ysblander pwl blaenau'r siopau a wnaed o haearn bwrw, ar hyd y brif ffordd flaenorol, yn y dref glan mor Fictoraidd ysblennydd hon.


 

 

Cefndir Hanesyddol

Er bod y ddogfen Record of Caernarvon o'r bedwaredd ganrif ar ddeg yn cofnodi wyth gafael rhydd yn nhrefgordd Dwygyfylchi, mae mapiau o'r ddeunawfed ganrif yn dangos prinder annedd ar hyd y stribed arfordirol hwn. Mae'n bosibl y ceid annedd bach cnewyllol ger eglwys Saint Gwynan ac wrth droed y llwybr drwy fwlch Sychnant. Y teulu lleol o bwys yn ystod y ddeunawfed ganrif oedd cangen o deulu'r Coetmor, a oedd yn byw yn Nhŷ Mawr. Gwerthodd goroeswr olaf y teulu'r ystâd i George Thomas Smith, a adeiladodd dŷ newydd o'r enw Pendyffryn bron ddau dŷ i lawr. O'r herwydd, llwyddodd i ennyn canmoliaeth Edmund Hyde Hall am roi "sglein a golwg gymdeithasol i lain o dir a oedd hyd nawr yn hynod ddiffaith." Yn ddiweddarach daeth Samuel Dukinfield Darbishire, ysgrifennydd cwmni Rheilffordd The Chester and Holyhead Railway Company i fyw ym Mhendyffryn - gŵr a oedd yn gyfrifol am lawer o'r datblygiad cymunedol ym Mhenmaenmawr.

Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, tyfodd yr anheddau oedd yn bodoli eisoes ym Mhenmaenmawr a Dwygyfylchi yn gyflym. Ym Mhenmaenmawr, ym 1838 tyfodd yr hyn a oedd yn annedd i weithwyr chwarel i gychwyn ar y ffordd bost newydd i greu tref sylweddol, oedd yn gartref i dwristiaid a gweithwyr chwarel a'u teuluoedd.

 

Prif Nodweddion tirweddau hanesyddol

Annedd y gweithwyr chwarel, datblygiad tref wyliau, cymuned gnewyllol cyn-fodernaidd, rhodfeydd colonadau, a'r defnydd o wenithfaen Penmaenmawr

Mae anheddau gweithwyr chwarel yn nodwedd o ran orllewinol Penmaenmawr ac mae tai gwyliau, tai preswyl a gwestyau yn nodweddu'r rhan ddwyreiniol. Mae echeli dwyrain-gorllewin ffordd bost Telford , y brif lein reilffordd o Gaer i Gaergybi, a'r A55 fodern yn cael lle blaenllaw yn yr annedd, ac mae llwybrau'r incleiniau chwareli blaenorol yn pasio drwy'r ardaloedd preswyl. Caiff un ohonynt ei ail-ddefnyddio gan adeilad didoli yn yr orsaf reilffordd fel system belt cludo.

Mae'r dref yn cynnwys amrywiaeth dda o dai gweithwyr, yn amrywio o adeiladau cynnar syml iawn yn New York , y tai teras yn arddull Swydd Gaerhirfryn yn David Street a Stryd Erasmus, a'r amrywiaeth o adeiladau deniadol i weithwyr yn St David's Terrace. Mae'r rhain, a'u hisadeiledd cymunedol cysylltiol, yn ddarlun o lywodraethu tadol teulu'r Darbishires dros chwarel.

Mae'r adeiladau'r dref wyliau'n bennaf yn perthyn i ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif ac yn dilyn trywydd y tir. Mae'r stryd lydan ond troellog o'r orsaf reilffordd i'r brif ganolfan siopa ar hyd y ffordd bost yn amlwg iawn, ond mae strydoedd eraill yn y rhan yma o'r annedd yn gul a throfaus. Mae'r brif stryd yn nodedig am ei rhodfeydd dan do, a'r pileri haearn bwrw sy'n eu dal, yn efelychu'r hyn a geir yn Llandudno.

Gwenithfaen Penmaenmawr yw'r prif ddeunydd adeiladu'r tai chwarel ac anheddau'r gyrchfan er y defnyddir brics Rhiwabon ac iddynt wyneb gwydrog yn helaeth ar gyfer gwaith addurniadol. Llechi yw prif ddeunydd y toeau, ond defnyddir teils hefyd.

Mae'r gymuned gnewyllol fechan yn Nwygyfylchi i'r dwyrain yn cynnwys pensaernïaeth sy'n rhannol yn arddull fila o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif a stad o dai modern. Maent wedi eu britho gydag adeiladau amaethyddol hŷn a chlwstwr o anheddau o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg wrth droed y ffordd dros Fwlch Sychnant i Gonwy. Mae'r annedd sylweddol o gyfnod y Rhaglywiaeth wedi goroesi fel swyddfa a chanolfan gymdeithasol i'r maes carafanau sydd ar ei ystâd. Ceir cwrs golff i'r gogledd i o Old Conwy Road .

 

Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Creuddyn ac Arllechwedd

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol