English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Creuddyn ac Arllechwedd – Ardal 1 Pen y Gogarth PRN 15823


SH 765840 yn edrych i'r de-orllewin. Yn dangos natur agored y pentir, olion caeau a chefnennau creiriol (canol oesol?) wedi'u cadw'n dda a chyfres o draciau yn y canol, gyda'r cwrs gorff blaenorol ar frig y llun


 

 

Cefndir Hanesyddol

Mae tystiolaeth o anheddiad dynol o'r cyfnod Palaeolithig Uchaf yn amlwg o'r olion a ddarganfuwyd yn ogof Kendrick yn SH77988281 ym 1879-80, sy'n cynnwys pedwar sgerbwd dynol, esgyrn anifeiliaid, bwyell garreg wedi'i llathru, cyllell a darnau o fflint. Mae olion Neolithig yn cynnwys siambr gladdu yn Llety'r Filiast. Yn Ogof Uchaf Kendrick yn SH78008284 gwelwyd olion annedd o'r Oes Efydd, pan oedd hi'n amlwg y mwyngloddiwyd copr ar Ben y Gogarth, ar raddfa sy'n cymharu â mwynfeydd copr cynhanesyddol eraill yn Ewrop y mae eu safleoedd wedi'u cadarnhau hyd yma. Mae bryngaer Pen y Ddinas, a saif yn union uwchlaw'r Fach yn SH77908295, yn safle o'r Oes Haearn. Mae'n cynnwys nifer o gylchoedd cutiau ac fe'i disgrifiwyd fel enghraifft ragorol o gaer ar bentir sy'n manteisio ar ffurf y bryn, cadarnle naturiol nad oedd angen ei gryfhau lawer, ar wahân i wddf y pentir.

Ceir peth tystiolaeth o olion Rhufeinig, fel y calennau copr Rhufeinig a ddarganfuwyd ym Mryn Euryn, sy'n awgrymu y gweithiwyd am gopr yn y cyfnod hwn. Mae rhai o'r cylchoedd cutiau ar Ben y Gogarth o bosibl yn dyddio o'r cyfnod hwn yn ogystal ag o'r Oes Haearn cyn-Rufeinig.

Mae'r enw Saesneg modern ar Ben y Gogarth sy'n tarddu o Horma Heva, "y Sarff Fawr" yn gofnod o bresenoldeb y Llychlynwyr. Rhoddodd coron Lloegr Faenor y Gogarth i Esgob Bangor ym 1277, ac yma yr adeiladwyd tŷ neuadd sylweddol. Dim ond ym 1891 yr ildiodd Esgobion Bangor eu hawl ar y Gogarth yn derfynol. Mae'n bosibl fod rhannau cynnar o adeiladwaith Eglwys Saint Tudno yn dyddio o'r ddeuddegfed ganrif a cheir enghraifft wych o olion amaethu cefnen a rhych gerllaw.

Dengys y casgliad o arolygon o'r bedwaredd ganrif ar ddeg a elwir yn The Record of Caernarvon bod maenor esgobol y Gogarth yn cynnwys tair trefgordd ar Ben y Gogarth - y Gogarth, Cyngreawdr i'r Gogledd, a'r Wyddfid i'r dwyrain, a saif uwchben safle presennol Y Fach. Fodd bynnag, erbyn canol y bymthegfed ganrif roedd teulu'r Mostyn eisoes yn uno eu tirddaliadaeth yn yr ardal. Erbyn y 1680au, roedd Esgob Bangor yn cwyno ynghylch eu gweithgarwch amgáu. Roedd ymfeddianwyr lleyg ac eglwysig yn hirben ac yn arddel agwedd entrepreneuraidd tuag at eu tiroedd drwy fwyngloddio am fwynau ac amaethu. Mor gynnar â 1692, roedd y Mostyniaid eisoes ar waith gan fod mwyngloddiau'n ddigon amlwg i'w marcio ar fap Lewis Morris yn 1748. Y nod oedd helpu llongwyr ar yr arfordir.

Parhaodd mwyngloddio copr tan ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn Llandudno, ond ceid ansicrwydd bob amser ynglŷn â'u gallu i greu cyfoeth, oherwydd gallai prisiau byd-eang godi a gostwng yn hawdd a pheri i weithfeydd bach fod yn aneconomaidd. Roedd draeniad yn broblem i'r mwynwyr ac aethpwyd i'r afael â hyn mewn sawl dull; defnyddio rhoden bwmp "Tom a Jerry" a ymestynnai o dir gerllaw'r Haulfre i'r Gogarth, gyrru lefel traeniad, ac adeiladu injan bwmpio a yrrwyd gan ager ym 1835 sy'n dwyn ei henw o Stryd y Dŵr gerllaw Y Fach.

 

Prif nodweddion tirweddau hanesyddol

Pyllau siâp cloch, cefnen a rhych, olion anheddiad creiriol, muriau calch, tramffordd

Pentir calch, sy'n hynod gyfoethog o ran archeoleg creiriol ond yn boblogaidd gan dwristiaid hefyd. Mae modd teithio mewn car, tram a char codi at y penrhyn. Ceir tystiolaeth helaeth o gloddio ar yr wyneb sy'n dyddio yn ôl i'r cyfnod Modern, yn arbennig y gyfres hir o byllau system rhodenni gwastad oedd yn cysylltu'r injan ‘Tom a Jerry' â'r mwynglawdd. Mae Mwynfeydd yr Oes Efydd wedi cael eu brigdorri'n diweddar er mwyn gwella profiad ymwelwyr. Mae Tram Pen y Gogarth yn atyniad poblogaidd sy'n nodweddu'r cyfnod Fictoraidd diweddar.

Mae'r dirwedd hefyd yn gyfoethog o ran dulliau cyfathrebu eraill, sy'n cynnwys goleudy a safle gorsaf telegraff.

 

 

Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Creuddyn ac Arllechwedd

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol