English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Caernarfon/Nantlle – Ardal 5 Llandwrog PRN 15704

 


Tafarn Tŷ'n Llan yng nghanol y pentref, gyda wal y fynwent ar y dde a phen un o'r terasau tai i'w weld yn y cefndir.


 

 

Cefndir hanesyddol

Pentref ystâd a godwyd gan deulu bonedd, wedi'i nodweddu gan ei eglwys Fictoraidd fawr, a adeiladwyd ar safle Cristnogol cynnar. Mae'n ymddangos bod gwesty Tŷ'n Llan yn dyddio o ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg ac mae'n dilyn patrwm penodol gwestai lleol, sydd i'w weld ar raddfa llawer mwy yn yr Oakeley Arms, Maentwrog, sef tair rhan gyfochrog yn sefyll allan tua'r stryd. Credir bod y rhes tai uncorn ar y ffordd o Landwrog i'r brif ffordd rhwng Caernarfon a Phwllheli wedi eu codi ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, o bosibl ar ôl i'r ail Arglwydd Newborough ennill mwyafrif yn 1823, ond mae mwyafrif yr adeiladau eraill, yn cynnwys yr eglwys fawr a ddyluniwyd gan Kennedy yn 1860, yn ddiweddarach.

 

Prif nodweddion y dirwedd hanesyddol

Anheddiad a gynlluniwyd, gyda thai uncorn penodol ac arddulliau bythynnod addurnol

Mae'r pentref wedi ei godi o gwmpas yr eglwys fawr a ddyluniwyd gan Kennedy yn 1860, ac mae'n ymddangos mai yma yr oedd gweithwyr ystâd Glynllifon yn byw a'r gweision ar ôl iddynt ymddeol. Mae dylanwad pensaernïaeth ddieithr yn amlwg yn yr elusendai a'r dafarn, ac mae'r rhes tai uncorn yn nodweddiadol o bensaernïaeth Glynllifon; addasiad o ddyluniad tŷ bonedd o gyfnod y dadeni, yn deillio yn nhermau Cymru o dŷ Bachegraig, fel bwthyn addurnol, gyda nodweddion gwledig bwriadol ac wedi eu grwpio gyda'i gilydd mewn rhes. Mae datblygiadau tai diweddar wedi cynyddu maint y pentref tua'r gorllewin. Nid oes teimlad Cymreig yn perthyn i'r pentref, nid oes capel Anghydffurfwyr yma, er yn eironig mae wedi dod yn gadarnle i genedlaetholdeb Cymreig .

 

Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Caernarfon- Nantlle

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol