English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Caernarfon/Nantlle – Ardal 49 Llawr Dyffryn Nantlle PRN 15748

 


Mae'r llun hwn o'r awyr yn edrych tua'r gogledd, ac yn dangos yr unig lyn sydd ar ôl (o'r ddau wreiddiol) ar lawr y dyffryn, gyda phentref Nantlle (ardal 13) ymhellach draw a chwarel Pen-yr-orsedd sy'n dal i weithio (ardal 9) yn y cefndir.


 

 

Cefndir hanesyddol

Llawr dyffryn gwastad, sydd wedi'i newid i raddau helaeth gan yr holl wastraff llechi a adawyd yno yno yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif. Yn draddodiadol mae'r ardal wedi bod yn eiddo i nifer o fân berchnogion lleol, ac roedd yn cynnwys ffermydd iseldir a oedd wedi'u lleoli ychydig uwchben lle'r oedd ongl y llethr yn newid. Nodweddir rhannau isaf yr ardal gan Gaer Engan, sy'n gysylltiedig â Chaer Dathyl ym mhedwaredd gainc y Mabinogi . Mae'r rhan uchaf yn cynnwys Baladeulyn y Mabinogi , ac o Lyn Nantlle y peintiodd Richard Wilson o'r Wyddfa.

 

Prif nodweddion y dirwedd hanesyddol

Afon wedi'i sianelu, ffordd

Amrywiaeth o borfa a chors, gyda chaeau llai ar ochrau Caer Engan. Yr annedd mwyaf yn yr ardal yw Tŷ Mawr, ffermdy a ailadeiladwyd yn ddiweddar ar ôl tân ar raddfa amhriodol ac mewn modd amhriodol. Prif ddiddordeb hanesyddol yr ardal wastad hon o borfa afreolaidd yw'r gwahanol lwybrau cyfathrebu. Cafodd yr afon ei sianelu'n helaeth ar ddechrau'r ugeinfed ganrif. Mae'r ardal yn cynnwys y ffordd o Ben-y-groes i Nantlle a gafodd ei dargyfeirio a'r bont goncrid a atgyfnerthwyd yn sylweddol yn Nhal-y-sarn, a gwblhawyd yn 1929, yn ogystal â llwybr tramffordd a nifer o lwybrau troed drwy ganiatâd.

 

Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Caernarfon- Nantlle

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol