English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Caernarfon/Nantlle – Ardal 48 Salem/Plas y Nant PRN 15747

 


Llun o un o'r pontydd ar Reilffordd Cledrau Cul Gogledd Cymru (sy'n cael ei haddasu fel Rheilffordd Ucheldir Cymru). Gallwch weld o edrych ar y coed a'r planhigion sut roedd yr ardal gyfan yn cyd-fynd â'r cysyniad o'r pictiwrésg ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.


 

 

Cefndir hanesyddol

Mae'n debyg bod yr ardal hon wedi'i datblygu gan berchnogion gwestai ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae Hyde Hall yn sôn am harddwch yr ardal yn 1809-1811, gyda'i ‘choedwigoedd blodeuog' mewn ardal ddi-goed. Roedd yn eiddo i deulu'r Williams o'r Marl yng Nghreuddyn. Codwyd melin flawd ac adeilad hogi pladuriau yma. Roedd dwy chwarel fechan hefyd yn gweithio yma yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

 

Prif nodweddion y dirwedd hanesyddol

Pictiwrésg, tirwedd i ymwelwyr

Ardal gul yn Nyffryn Gwyrfai lle mae nifer o westai sylweddol o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, sy'n dal i gael eu defnyddio, yn ogystal â rhai ffermdai hŷn. Mae'n bosibl bod Plas y Nant wedi'i addasu o dŷ'r teulu Williams. Mae'n ymddangos mai canlyniad i agor Rheilffordd Cledrau Cul Gogledd Cymru drwy'r ardal yn 1877 yw'r datblygiad hwn, er nad oedd gorsaf yma tan 1922. Nid oes unrhyw waith bwriadol wedi'i wneud i blannu coed bythwyrdd na choed rhododendron, sy'n gorchuddio rhan o'r domen. Mae'r ardal yn cyd-fynd â'r cysyniad o'r pictiwrésg ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

 

 

Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Caernarfon- Nantlle

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol