English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Caernarfon /Nantlle – Ardal 43 Llethrau Dyffryn Gwyrfai PRN 15742

 


Mae'r llun hwn yn edrych tua'r gogledd-ddwyrain, ac yn dangos fferm sydd wedi ei lleoli'n nodweddiadol ar odre'r mynydd, gyda chaeau amgaeedig mawr y tu ôl iddi, a'r mynyddoedd agored (ardal 44) yn y cefndir.


 

 

Cefndir hanesyddol

Ardal lle'r oedd y rhan fwyaf o'r tir ym mherchnogaeth ystâd y Faenol. Cyn hynny roedd cymeriad yr ardal yn gwbl wledig. Fe'i datblygwyd ar gyfer chwarela llechi ar ôl agor Rheilffordd Cledrau Cul Gogledd Cymru yn 1878-81.

 

Prif nodweddion y dirwedd hanesyddol

Ffermydd mawr, chwareli llechi, coetir

Nodweddir yr ardal fawr, agored hon gan nifer o ffermydd tenantiaeth a sefydlwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, lle'r oedd ongl y llethr yn newid, gydag ysguboriau cerrig yn y caeau ac adeiladau amaethyddol eraill ar rannau isaf y daliadau. Nodweddir y llethrau gan Chwarel Lechi Glanrafon a'i thomenni, tirwedd sydd wedi'i gadw'n dda -; hefyd mae chwarel lechi lai yng Nghlogwyn y Gwin. Mae llwybr y rheilffordd, yn enwedig yr argloddiau cerrig sychion sylweddol, yn nodwedd sy'n tynnu sylw. Yn rhyfedd, prin yw'r olion archeolegol (naill ai o'r cyfnod cynhanesyddol neu ganoloesol) y gwyddys amdanynt yn yr ardal, a fyddai fel arall â photensial da i'w cadw, er nad oes unrhyw waith maes systematig wedi ei wneud.

 

Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Caernarfon- Nantlle

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol