English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Caernarfon/ Nantlle – Ardal 38 Cae Rhonwy a Gelli Ffrydiau PRN 15737

 


Mae'r llun hwn o'r awyr yn edrych tua'r de ac yn dangos yn glir rai o derfynau'r caeau (linsiedi), sef y nodweddion hanesyddol pwysicaf yn yr ardal hon, cefnen eithaf gwastad o dan Mynydd Mawr. Mae hefyd yn werth nodi'r patrwm anheddu gwasgaredig.


 

 

Cefndir hanesyddol

Ardal sy'n cynnwys tystiolaeth helaeth o anheddiad cynhanesyddol diweddar a systemau caeau cysylltiedig. Erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif roedd yr ardal yn rhan o ystâd Hughes o Lysdulas, teulu a ddaeth yn gyfoethog yn sgil mwynglawdd copr Mynydd Parys. Gwnaed Cyrnol Hughes yn Arglwydd Dinorben ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cysylltir Cae Rhonwy a'r dychanwr Siôn Caeronwy (John Jones, yn ei flodau 1784).

 

Prif nodweddion y dirwedd hanesyddol

Olion archeolegol (anheddiad a linsiedi)

Mae patrwm y caeau a welid pan wnaed yr arolwg yn 1809 yn dal yn amlwg yn y dirwedd bresennol, ar ben systemau gaeau (o'r cyfnod cynhanesyddol diweddar). Yn wahanol i'r llethrau sy'n wynebu'r môr o gwmpas Rhostryfan, mae'r prif derfynau i'r caeau wedi eu cadw fel linsiedi â glaswellt wedi tyfu drostynt heb waliau na chloddiau ar eu pennau ac i raddau helaeth nid ydynt yn cael eu defnyddio. Mae nifer o aneddiadau (cyfoes?) o fewn y system gaeau, a bryngaer fechan ar yr ochr ddwyreiniol. Ni chloddiwyd yr un o'r safleoedd, ac nid oes cynllun dibynadwy, cywir. Mae'r rhan fwyaf o'r ardal yn rhestredig.

 

Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Caernarfon- Nantlle

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol