English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Caernarfon/Nantlle – Ardal 16 Waunfawr PRN 15715

 


Mae datblygiad hirgul yr anheddiad hwn, ar hyd y briffordd sy'n rhedeg o'r chwith (Beddgelert) i'r dde (Caernarfon) ar draws y llun hwn (sy'n edrych tua'r de-orllewin), i'w weld yn glir yma. Ychwanegwyd anheddiad diweddarach yr ochr dde i'r ffordd sy'n rhedeg ar hyd ochr sy'n mynd lawr i ddyffryn yr afon. Mae caeau amgaeedig ardal 17 i'w gweld yn nhu blaen y llun.


 

 

Cefndir hanesyddol

Rhan o Dreflan Waun Fawr, comin lle'r oedd gan denantiaid Treflan yr hawl i droi eu hanifeiliaid i bori. Mae'r pentref presennol yn ddatblygiad hirgul sy'n adlewyrchu datblygiad y chwareli llechi yn ogystal ag agor Rheilffordd Cledrau Cul Gogledd Cymru yn 1878, a hwylusodd ddatblygiad cymuned gnewyllol. Cysylltir yr ardal â'r bardd Dafydd Ddu Eryri (David Thomas, 1759-1822), a John Evans (1770-1799), a aeth ar daith i darddiad yr Afon Missouri.

 

Prif nodweddion y dirwedd hanesyddol

Safle amgaeedig, anheddiad hirgul

Datblygiad hirgul o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg ar hyd y ffordd o Gaernarfon i Feddgelert, a ailgodwyd tua 1802, yn wynebu ardal anheddu gynharach, fwy gwasgaredig (ardal 17). Mae teras hir Glyn Afon (SH52395943), a godwyd o bosibl yn yr 1880au, wedi'i adeiladu'n gadarn â meini mewn haen. Mae nifer o'r tai wedi cadw'r gwaith haearn addurnol yn y gerddi blaen. Mae'r garejys a'r warysau mawr yn adlewyrchu rôl y pentref yn natblygiad cwmnïau cludiant bach yn yr ardal ar ôl 1918, yn arbennig cwmni Whiteways (SH52315946). Mae'n bosibl bod y clwstwr tai tuag at y bont yn adlewyrchu cnewyllyn bach cynharach. Mae'r rhain yn cynnwys Pen y Bont, cartref Dafydd Ddu Eryri (SH52645909).

 

 

Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Caernarfon- Nantlle

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol