English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Caernarfon/Nantlle – Ardal 1 Caernarfon PRN 15700

 


Llun o'r dref o'r awyr yn edrych tua'r de, gyda Doc Fictoria yn nhu blaen y llun, y castell canoloesol a'r dref furiog i'r dde a thwf y dref yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif yn y pellter.


 

 

Cefndir hanesyddol

Mae'n bosibl mai'r Gaer Rufeinig ( Segontium ), ar gyrion de-ddwyreiniol y dref bresennol, oedd y safle cynharaf i bobl ymsefydlu ynddo, ac mae'r ffaith bod eglwys y plwyf Sant Peblig gerllaw'n cryfhau'r posibilrwydd hwnnw. Sefydlwyd y llys ac anheddiad brodorol ar graig ar y tir lle mae'r afon Seiont a Chadnant yn uno â'r afon Menai cyn concwest Edward 1; cafodd y rhain eu dymchwel i wneud lle i fwrdeistref furiog a chastell ar ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg.

Pan wnaeth Speed ei arolwg yn 1612 dal yn gyfyngedig oedd y twf y tu hwnt i furiau'r dref, er bod pobl wedi ymsefydlu yn yr ardal sy'n cyfateb bellach i Benrallt. Ni ddechreuodd y dref dyfu nes gwelwyd twf y diwydiant llechi, ac i ryw raddau yr allforion copr, o ddiwedd y ddeunawfed ganrif, pan sefydlwyd cei newydd (islaw'r castell) ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, rheilffordd Nantlle yn 1812 a Gwesty'r Uxbridge Arms (Royal, Celtic Royal). Rheolid, ac i ryw raddau, cwerylwyd dros y dref gan brif deuluoedd y tirfeddianwyr – teulu Paget Plas Newydd, Arglwyddi Newborough Glynllifon, Assheton Smith y Faenol, Thomas Coed Helen a theulu'r Garnons. Amlygwyd pwysigrwydd cynyddol y dref pan godwyd adeiladau dinesig fel neuadd y sir, llysoedd y gyfraith, carchar, swyddfa'r post yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif, a'i harwyddocâd fel canolfan ranbarthol Anghydffurfiaeth wrth i nifer o gapeli sylweddol gael eu codi. Yn yr ugeinfed ganrif adeiladwyd tai cymdeithasol ar raddfa sylweddol a cheisiwyd datblygu ei hapêl i dwristiaid.

 

Prif nodweddion y dirwedd hanesyddol

Caer Rufeinig, tref furiog ganoloesol, cei llechi, rhesi o stoc tai

Mae'r castell a'r muriau'n Safle Treftadaeth Byd, ac yn yr anheddiad rhwng y muriau cadwyd cynllun y strydoedd canoloesol. Mae o leiaf un adeilad o'r Oesoedd Canol, a adnewyddwyd yn ddiweddar, wedi goroesi o fewn y muriau yn ogystal â nifer o dai tref o'r ddeunawfed ganrif, sydd mewn cyflwr gwael. Yr adeiladau amlycaf yn rhan ogleddol-orllewinol yr hen dref yw llysoedd y gyfraith a'r cyn garchar, a hefyd Pencadlys modern Cyngor Sir Gwynedd, a godwyd yn y 1980au gan Gwmni Tref Caernarfon.

Mae'r ardal sy'n union i'r de-ddwyrain i'r Maes wedi'i nodweddu gan dai teras o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg (SH48106258C). Mae'r gostyngiad yng nghynulleidfaoedd capeli mawr y dref yn golygu y byddant yn fwy na thebyg yn cael eu gorfodi i gau eu drysau yn fuan. Mae Engedi (capel Methodistiaid Calfinaidd mawr) ar werth ar hyn o bryd.

Mae'r maes parcio ffug-ganoloesol aml-lawr mawr ar safle pwll melin ganoloesol wedi cael effaith sylweddol ar y treflun (SH48066273).

Mae'r ddwy brif ffordd sy'n mynd allan o'r dref ganoloesol, sef Ffordd Bangor (i'r gogledd) a Ffordd Porthmadog (i'r de), wedi eu nodweddu gan res o dai mawr o gyfnod y Rhaglywiaeth (SH48206249 a SH48216309), tai sylweddol o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, sy'n aml yn defnyddio brics, a thai mawr maestrefol po bellaf yr ydych yn mynd o'r canol (SH48246325C a SH48336130C). Gadawyd i'r adeiladau, yn enwedig y rhai o gyfnod y Rhaglywiaeth, ddirywio ac maent wedi mynd yn ddi-raen. Mae'r rhai o'r ferandas gwaith haearn deniadol yn dal i'w gweld ar y rhai sydd wrth ymyl Gwesty'r Royal a hen Eglwys Crist. Mae'r rhes o dai tri a phedwar llawr ar hyd Ffordd Bangor wedi eu hadeiladu o frics melyn trawiadol; mae nifer ohonynt bellach yn Westai Bach Gwely a Brecwast neu'n gartrefi hen bobl. Ymhellach ymlaen ar hyd y ffordd hon mae rhes o dai deniadol iawn a godwyd yn y 1930au, er, yn anffodus dros y blynyddoedd mae'r rhan fwyaf o'r ffenestri wedi cael eu newid am rai modern. Mae Plas Coch (SH 4900 6432), sydd ar gyrion pellaf yr ardal ar hyd Ffordd Bangor, yn annedd sylweddol a godwyd ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg i ddiwydiannwr, ac mae bwriad i'w adnewyddu ynghyd ag adeilad cyfagos Plas Brereton (ardal 26).

Yn nwyrain y dref mae ardal helaeth o dai cymdeithasol, yn dyddio'n bennaf o'r 1950au. Ar gyrion deheuol y dref mae ysbyty, a godwyd o gwmpas wyrcws sylweddol, ger parc Comin Morfa, a sefydlwyd rhwng 1866 a 1889. Mae hwn wedi'i gynnwys yng Nghofrestr Cadw/ICOMOS o Dirweddau, Parciau a Gerddi.

Mae tirwedd arbennig y doc ar hyd y Seiont wedi'i hesgeuluso'n helaeth (SH 4796 6257 C). Mae'n cynnwys Gwaith Haearn Brunswick ac adeiladau gwaith haearn DeWinton ac Union, sy'n cael eu hailddefnyddio ar gyfer diwydiant ysgafn. Mae'r ardal hon bellach wedi dod yn derminws gogleddol i Reilffordd Eryri, datblygiad a allai greu pwysau a chyfleoedd newydd.

 

Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Caernarfon- Nantlle

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol