English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Arfon - Ardal 48 Y Faenol


© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl, Ymddiriedolaeth Archaeoloegol Gwynedd, 100017916 2005

Cefndir hanesyddol

Safle uchel ei statws ers y cyfnod Canoloesol, pan oedd y tir yma yn rhan o Faenol Bangor, ond aeth yr ystad yn fwyfwy i ddwylo lleyg. Ymgorfforwyd llawer ohoni yn nemên ystad y Faenol, a roddwyd gan Gwilym o Orange i Smith, sef llefarydd Ty’r Cyffredin. Erbyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg y Faenol oedd yr ail ystad fwyaf yn Sir Gaernarfon, ac roedd wedi’i hamgáu o’r 1830au gan un o’r waliau cerrig nodweddiadol sy’n amgylchynu cartrefi’r bendefigaeth a’r uchelwyr cyfoethocach lleol, ac a gynhwysodd hefyd dai uchelwyr lleol eraill a brynwyd gan y Faenol, megis Bryntirion. Mae Treborth yn ddatblygiad yn dyddio o gyfnod y rheilffyrdd.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Annedd uchel ei statws a demenau cysylltiedig

Yn ogystal â Hen Neuadd y Faenol, adeilad sy’n dyddio o ddiwedd y cyfnod Canoloesol, ac adeilad diweddarach y Faenol, sy’n strwythur di-nod yn dyddio o 1842 y gall gwaith cynharach fod wedi’i ymgorffori ynddo, mae’r tiroedd yn cynnwys adeiladau allan mewn cyflwr da iawn yn dyddio o c. 1605 hyd at y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Datblygwyd tiroedd y demên yn rhannol fel parc busnes a swyddfeydd; fodd bynnag, prin y cyffyrddwyd â’r mwyafrif o ddemên y Faenol ers i’r ystad ddod i ben yn y 1960au. Mae cwmni’r Faenol Cyf. wrthi’n sefydlu ysgol cadwraeth bensaernïol yn yr adeiladau allan gyda buddsoddiad mewnol gan Fenter Ardal y Lechen a pherchenogion presennol y safle. Mae’r gwaith o addasu rhai o’r adeiladau llaeth yn dyddio o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn tynnu at ei derfyn (mis Ionawr 2000).

 

 

Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Arfon

 

 

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol