English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Arfon - Ardal 42 Ardal amgaeëdig Gwaun Gynfi


© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl, Ymddiriedolaeth Archaeoloegol Gwynedd, 100017916 2005

Cefndir hanesyddol

Ardal nas amgaewyd, ar wahân i rywfaint o dresmasu gan sgwatwyr, tan 1806, pan y’i rhoddwyd i ystad y Faenol a pherchenogion tir eraill, ac a ddefnyddiwyd o 1834 ymlaen i sefydlu chwarelwyr Dinorwig a’u teuluoedd ar dyddynnod mewn ymgais i’w hannog i arddel arferion cynildeb a sobrwydd.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Anheddiad diwydiannol (chwarel lechi)

Nodweddir yr ardal gan barciau bach y mae pob un yn cynnal bwthyn, a rhai corlannau mwy o faint, er bod y patrwm anheddu yn llawer llai rheolaidd nag yn y gymuned debyg a sefydlwyd gan y landlord ym Mynydd Llandygái, sy’n awgrymu i’r clostiroedd eu hunain gael eu gwneud gan y chwarelwyr dan lygad yr asiant, yn hytrach na’u bod yn cael eu rheoli’n uniongyrchol gan ystad y Faenol. Mae nifer o aneddiadau, megis Garnedd, i’w priodoli i dresmasu anawdurdodedig gan sgwatwyr o’r ddeunawfed ganrif. Dengys yr anheddau ddylanwad arddull nodweddiadol yr ystad, a cheir rhai nodweddion yn yr arddull fonheddig, ac maent yn ddigon mawr i awgrymu y gall yr anheddau gwreiddiol hyn yn dyddio o’r 1830au a’r 1840au fod wedi’u hailadeiladu ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae rhai adeiladau hên wedi goroesi, a nodweddir gan eu toeau llechi mawr.

Mae pobl yn dal i fyw yn y mwyafrif o’r adeiladau, er bod cryn nifer, yn arbennig gerllaw’r chwarel, bellach yn anghyfannedd.

Mae’r fawnog gyhoeddus a fynnwyd gan y ddeddf amgáu wedi’i lleoli yma, ac mae ffordd lechi Assheton Smith a adeiladwyd ym 1811 yn croesi’r ardal, yn ogystal â ffyrdd diwydiannol eraill a oedd yn gysylltiedig â’r chwarel lechi a rhan o gwrs Rheilffordd Dinorwig a adeiladwyd ym 1825.

Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Arfon

 

 

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol