English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Arfon - Ardal 4 Llanberis

 


© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl, Ymddiriedolaeth Archaeoloegol Gwynedd, 100017916 2005

Cefndir hanesyddol

Pentref mawr, a adeiladwyd i raddau helaeth ar dir a oedd yn eiddo i elusennau Rhuthun, ffaith a adlewyrchir mewn enwau stryd megis ‘(Dean) Goodman Street’, ac felly mae’n nodweddiadol o ardal lle y mae aneddiadau cnewyllol yn datblygu mewn ardaloedd nad ydynt yn eiddo i’r prif berchennog tir lleol, sef ystad y Faenol. Mae’r Llan wreiddiol yn Nant Peris, 2km i’r de-ddwyrain.

Er bod cyfeiriadau at gabanau o ddiwedd y ddeunawfed ganrif lle y gallai teithwyr ddod o hyd i dywyswyr a fyddai’n fodlon eu hebrwng i fyny’r Wyddfa, datblygodd Llanberis fel anheddiad ar ôl sefydlu Gwesty’r Royal Victoria (gweler ardal 5) cyn 1831 ac ar ôl i’r rheilffordd linell leol gyrraedd ym 1869. Er ei fod yn gartref i nifer o deuluoedd chwarelwyr hefyd, datblygodd yn lleoliad poblogaidd i dwristiaid, ac mae’n dal i fod yn boblogaidd gyda cherddwyr a dringwyr, yn ogystal â phobl yn ymweld ag Amgueddfa Lechi’r Amgueddfa Genedlaethol, y daith o amgylch gorsaf drydan y ‘Mynydd Gwefru’, castell Dolbadarn a Thrên Bach yr Wyddfa.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Anheddiad diwydiannol (chwarel lechi), anheddiad ymwelwyr

Elfennau amlycaf Llanberis yw nifer o adeiladau sylweddol yn dyddio o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gan gynnwys gwestai, eglwys a seilwaith cyffredinol y gymuned. Adlewyrchir y newid o wyliau teuluol i wyliau gweithgareddau i ryw raddau yn y newidiadau yn narpariaeth y gwestai, a newidiwyd yr hyn a arferai fod yn erddi sylweddol o amgylch y gwestai eu hunain yn feysydd parcio, gan greu treflun cymharol lwm. Mae nifer o flaenau siopau Fictoraidd wedi goroesi.

Mae tai teras ar gyfer teuluoedd chwarelwyr wedi’u cyfyngu i raddau helaeth i ran ogledd-orllewinol y pentref, ac mae’n cynnwys nifer o flaenau a phortshys addurnedig godidog.


Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Arfon

 

 

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol