English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Arfon - Ardal 26 Bangor


© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl, Ymddiriedolaeth Archaeoloegol Gwynedd, 100017916 2005

Cefndir hanesyddol

Dinas Bangor; craidd trefol Canoloesol sydd wedi ehangu ers dechrau’r ail ganrif ar bymtheg. Mae’r Stryd Fawr droellog a’r ardal o amgylch yr Eglwys Gadeiriol yn adlewyrchu’r patrwm anheddu yn y cyfnod Cristnogol Cynnar. Mae Bangor yn arbennig o gyforiog o bensaernïaeth yn perthyn i’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif. Bu ar flaen y gad o ran datblygu tai cymdeithasol deniadol yn y blynyddoedd rhwng y ddau ryfel byd.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

‘Bangor’ Ganoloesol i’w gweld yng nghynllun y strydoedd, tai trefol, adeiladau’r brifysgol, glan y môr

Mae’r briffordd hanesyddol trwy Fangor, y Stryd Fawr, yn hir ac ar chwâl. Mae golwg dlodaidd ar lawer ohoni, ac mae rhan ohoni’n cael ei ddefnyddio gan gerddwyr yn unig.

Defnyddiwyd amrywiaeth o ddeunyddiau adeiladu. Defnyddiwyd llechi porffor Arfon a dim arall bron, ar wahân i’r llechi o Sir Benfro a ddefnyddiwyd ar brif adeilad y Brifysgol (a atgyweiriwyd yn ddiweddar gan ddefnyddio llechi gwyrdd Nantlle). Defnyddiwyd carreg leol yn bennaf, er y gwnaed defnydd helaeth o wenithfaen Aberdeen mewn mannau, a defnyddiwyd carreg rywiog o’r Alban ar adeilad Prifysgol Hare. Gwnaed rhywfaint o ddefnydd o frics mewn rhai o’r adeiladau sefydliadol mwy o faint, megis y swyddfa bost a llyfrgell y dref.

Mae’r ardal o amgylch y Brifysgol yn faestref dosbarth canol ddeniadol, gyda golwg dlodaidd arni mewn rhai mannau.

Mae maestrefi Penrhosgarnedd yn cynnwys amrywiaeth ddeniadol o adeiladau mewn mannau. Mae tai cymdeithasol Bangor, a sefydlwyd mewn nifer o leoliadau o’r 1920au ymlaen at ei gilydd yn arddangos amrywiaeth ddeniadol o arddulliau.

 

 

Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Arfon

 

 

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol