English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Arfon - Ardal 2 Coedwig Fachwen

 


© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl, Ymddiriedolaeth Archaeoloegol Gwynedd, 100017916 2005

Cefndir hanesyddol

Llethrau bryniau a orchuddir yn rhannol â choed a blannwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac yn rhannol â choetir hþn, lle y ceir llawer o anheddau gwasgaredig a therasau byr, anheddau ar gyfer teuluoedd chwarelwyr yn bennaf, ac iddynt gymeriad brodorol neu ystad-frodorol fel arfer. Cafwyd rhywfaint o ddatblygiadau diwydiannol yn yr ardal o ddiwedd y ddeunawfed ganrif ymlaen, megis agor y chwarel lechi ar dir Arglwydd Niwbwrch yn Fachwen a melin wlân ym Medw Argoed, yn ogystal â chreu’r seilwaith trafnidiaeth i’w gwasanaethu. Mae hyn yn cynnwys y ffordd wreiddiol i Chwarel Dinorwig a adeiladwyd ym 1788 neu’n gynharach, ffordd a adeiladwyd ym 1825-6 i Fachwen, cei posibl, Cei Llydan, a chwrs y rheilffordd 4’ o led a adeiladwyd ym 1843 i wasanaethu Chwarel Dinorwig, yn ogystal â’r rheilffordd ymwelwyr 2’ o led a gymerodd ei lle. Yng Ngilfach Ddu gweithdai chwarel Dinorwig, incleins, barics, a chwarel Vivian, pob un ohonynt yn ddatblygiadau yn dyddio o’r cyfnod 1869-1877, ac ysbyty’r chwarel sydd ychydig yn ddiweddarach.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Planhigfeydd yn dyddio o’r bedwaredd ganrif ar ddeg, chwareli a seilwaith diwydiannol


Llethr yn wynebu’r de-orllewin uwchlaw Llyn Padarn, a orchuddir i raddau helaeth â choed, ond sydd hefyd yn cynnwys nifer o strwythurau a nodweddion diwydiannol. Mae rhai o’r rhain bellach yn adfeiliedig ac maent wedi tyfu yn wyllt, rheolir rhai eraill fel rhan o atyniadau ymwelwyr. Mae llaw reoli ystad y Faenol i’w gweld yn y modd y mae’r coetiroedd wedi’u rheoli a hefyd yng ngraddfa a chrefftwaith yr adeiladau diwydiannol.

Mae’r ardal hon yn rhan o Barc Gwledig Padarn, ac mae’n cynnwys Amgueddfa Lechi Cymru, a sefydlwyd yn yr adeilad pedeironglog yn cynnwys gweithdai a adeiladwyd ar gyfer Chwarel Dinorwig ym 1870, yn ogystal â nodweddion eraill yn gysylltiedig â’r chwarel, gan gynnwys y gyfres o incleins sydd fwy neu lai yn gyfan, Chwarel Vivian ac ysbyty Chwarel Dinorwig. Sefydlwyd canolfan chwaraeon dðr ar lan y llyn gerllaw’r Amgueddfa, sydd wedi golygu tirlunio tomenni’r chwarel i ryw raddau.


Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Arfon

 

 

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol