English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Arfon - Ardal 1 Bethel a Saron

 

© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl, Ymddiriedolaeth Archaeoloegol Gwynedd, 100017916 2005

Cefndir hanesyddol

Cyduniad o ddau bentrefan yn dyddio o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a adeiladwyd yn wreiddiol ar bocedi o dir nad oedd yn eiddo i ystad y Faenol i ddarparu cartrefi ar gyfer chwarelwyr a’u teuluoedd yn chwareli llechi Dinorwig a oedd yn eiddo i ystad y Faenol ond bedair milltir i’r de ohoni. Tyfodd pentrefan Bethel o amgylch capel yr Annibynwyr a phentrefan Saron o amgylch capel y Wesleaid a adeiladwyd ym 1856, ac fe’u gwasanaethid gan lwyfan ar y rheilffordd chwarel breifat a âi dros y briffordd trwy’r pentref yn union i’r dwyrain.

Mae’r tai a adeiladwyd ar ôl y 1960au ar yr hyn a arferai fod yn rhostir agored d rhwng Bethel a Saron yn deillio o werthu’r rhannau oedd yn weddill o ystad y Faenol.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Anheddiad diwydiannol (chwarel lechi)

Mae datblygiad anheddau chwarel o fythynnod cwbl frodorol, wedi’u hadeiladu yn aml ar ffurf croglofft, i’r teras digyswllt a byr nodweddiadol o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg i’w weld yma. Ceir rhai enghreifftiau o bensaernïaeth y dylanwadwyd arni gan yr arddull fonheddig, megis yr anheddau â thoeau mansard. Mae’r capeli a’u mansau cysylltiedig yn adeiladau trawiadol, yn arbennig Cysegr (Methodist Calfinaidd, 1864).

Gwnaed rhywfaint o ddefnydd o gerrig patrymog o’r tu allan i’r ardal leol, gwenithfaen Aberdeen o bosibl, ar rai adeiladau, yn arbennig capel Bethel a Llys Myfyr gerllaw.

Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Arfon

 

 

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol