English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardudwy - Ardal 7 Caeau, llethrau ar lefel ganolig o amgylch Cae’r-llwyn (PRN 18240)

 


© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl, Ymddiriedolaeth Archaeoloegol Gwynedd, 100017916 2005

Cefndir hanesyddol

Cofnodwyd sawl anheddiad amgaeedig hwyr yn yr ardal, ac mae natur patrwm y caeau (llociau afreolaidd eu siâp â chloddiau o rwbel cerrig yn ffiniau iddynt gyda linsiedi cryf) yn rhoi'r argraff o dirwedd a luniwyd yn wreiddiol yn y cyfnod cynhanesyddol hwyr, gydag ychwanegiadau o'r cyfnod ôl-ganoloesol o bosibl, ond cymharol ychydig o ymyrraeth ddiweddar. Mae hon wedi bod yn ardal drawsnewid ar y ffin rhwng yr ucheldiroedd a’r iseldiroedd trwy’r oesoedd. Dwy fferm yn unig sydd yn yr ardal, y naill fel y llall yn rhoi’r argraff ei fod yn rhan o lechfeddiannau ôl-ganoloesol i ymyl anialdir y mynydd (gan ddefnyddio llechfeddiannau cynharach tebyg o bosibl). Ni chafwyd unrhyw anheddu na gweithredu diweddar ar wahân i’r gronfa ddwr anghydnaws o’r 20fed ganrif a’r gwaith dwr.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Anheddiad a chyfundrefn caeau cynhanesyddol hwyr, llechfeddiannu'r ymylon ucheldirol

Mae’r ardal hon hanner ffordd i fyny llethrau'r bryniau rhwng ardaloedd 01 (tir pori wedi’i wella, llociau o’r 19eg ganrif) ac 02 (tir heb ei wella i raddau helaeth). Mae’n ddarn o dir sy’n gwbl wahanol i'r ddwy ardal, yn bennaf oherwydd patrwm ei gaeau, y defnydd amaethyddol a wnaed ohono a hanes. Llociau mawr, lled-grwn, afreolaidd eu siâp sydd i’w gweld yma yn bennaf (ni welir yr un llinell syth na wal gerrig a adeiladwyd yn ofalus) ac er na chofnodir ond ychydig o aneddiadau cynhanesyddol, mae gwaith maes diweddar yn awgrymu bod sawl un ar ôl i'w ddarganfod. O uwcholwg, mae’r patrwm caeau cromlinog afreolaidd (a’r uchder a’r lleoliad) yn awgrymu y gallai fod yn enghraifft o lechfeddiannu ôl-ganoloesol ymylon y tir anial ucheldirol, ond mae llawer o ffiniau’r caeau yn hawdd eu gweld, ac wedi’u ffurfio o gloddiau o rwbel cerrig, wedi’u gwasgaru yn aml, ac yn annigonol i gadw’r anifeiliaid i mewn (gweler y ffotograff). Mae llawer ohonynt a linsiedi cryf, ac mae hyd at 1m o wahaniaeth yn eu huchder rhwng y ddwy ochr. O’u cymharu ag ardaloedd eraill yng Ngwynedd, mae’r rhain yn awgrymu bod llawer o’r caeau yn rhai cynhanesyddol (o leiaf o ran eu tarddiad). Mae sawl mân gwrs dwr yn rhedeg trwy’r ardal, a fyddai wedi bod ar hyd yr amser yn dir amaethyddol gymharol gynhyrchiol ond sydd wedi osgoi newidiadau modern. Mae rhai o’r caeau wedi’u clirio (at ddibenion amaethyddol) tra bod eraill yn parhau i fod yn llawn o gerrig a chlogfeini naturiol. Mae’r ardal hon yn debyg o ran ei chymeriad i ardal 13.

Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Ardudwy

 

 

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol