English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardudwy - Ardal 33 Caeau – llethrau uchaf y mynyddoedd (PRN 18266)

 


© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl, Ymddiriedolaeth Archaeoloegol Gwynedd, 100017916 2005

Cefndir hanesyddol

Mae’r ardal hon, fel yn achos ardal 25 a rhai ardaloedd eraill, yn cynnwys ehangder mawr o ucheldir â chyfoeth enfawr o olion archeolegol creiriol. Mae’r ardal hon wedi’i lleoli (yn bennaf) rhwng llethrau coediog a dyffrynnoedd ardal 29 a mynyddoedd garw ardal 27. Mae amrediad o dystiolaeth o henebion angladdol a defodol o gyfnod cynnar a chanol yr oes efydd yn yr ardal, wedi’u seilio y naill ben a'r llall i'r ardal (mae'r pen deheuol yn cynnwys rhai o'r meini hirion a'r cylchoedd carneddau ger Moel Goedog a drafodwyd dan bennawd ardal 25, ac yn y pen gogleddol ceir crynodiad arall o amgylch Bryn Cader Faner). Gall fod yn arwyddocaol fod y ddwy ardal yn agos at lwybrau naturiol o bwys (a allai fod yn gysylltiedig â’i gilydd hyd yn oed), y naill o’r arfordir a’r llall dros y mynyddoedd. Ni wyddys am dystiolaeth o anheddu yn y cyfnod cynnar hwn, ond yn y cyfnod cynhanesyddol diweddarach, ar ymylon yr ucheldir, ar y llethrau yn wynebu’r gorllewin a oedd wedi’u draenio’n well oedd prif ffocws yr anheddu hwn ac mae nifer o aneddiadau wedi goroesi lle na fu'r amaethu modern yn rhy ddwys. Unwaith eto, mae’r safleoedd hyn wedi’u crynhoi yn ne’r ardal (yn arbennig ar y fryngaer sydd ar Foel Goedog) ac yn y gogledd (yn arbennig rhwng Moel-glo a Choetty-mawr, gyda chytiau unigol pellennig ar dir uwch o amgylch Bryn Cader Faner). Ffurf ar dyˆ crwn mewn lloc consentrig nad yw’n unigryw i Ardudwy, ond sydd yn nodweddiadol o’r ardal hon yw’r anheddiad ym Maes-y-caerau (gweler y ffotograff). Ceir peth tystiolaeth fod yr arddull anheddu hon wedi parhau o arddulliau’r oes efydd. Fe ddatblygodd yn grwpiau mwy cymhleth o strwythurau, gan ymgorffori adeiladau cryfion â waliau cerrig o bob siâp a maint at wahanol ddibenion. Grwpiau mwy cnewyllol o dai ar dyddyn cryno amgaeedig neu agored (y ceir enghreifftiau ohonynt ger Moel Goedog yn y de ac ym Moel y Glo a Choetty-mawr yn y gogledd) yw’r arddull anheddiad mwy diweddar a welir amlaf. Mae’r aneddiadau cytiau amgaeedig ac agored cnewyllol i’w cael ar hyd ymylon gorllewinol ucheldir Ardudwy ac yma mae’r rhan fwyaf ohonynt i’w cael yn y caeau afreolaidd eu siâp ar lethrau gogledd-orllewinol is Moel y Geifr. Mae’n ddiddorol nodi, fodd bynnag, nad yw’n ymddangos bod y safleoedd hyn yn gysylltiedig â’r cyfundrefnau caeau â therasau cryfion sydd i’w gweld ymhellach i’r de (er enghraifft yn ardal 25). Mae nifer o safleoedd creiriol sy’n dangos bod pobl wedi byw yno yn y cyfnod canoloesol diweddarach, ac unwaith eto, mae’r olion i’w cael yn y caeau afreolaidd eu siâp o amgylch Bryn-melyn a Choety-mawr, ond prin yw’r dystiolaeth fod pobl wedi byw yno’n ddiweddarach. Pedair fferm ôl-ganoloesol yn unig sydd yn yr ardal (unwaith eto, ar lethrau gogledd-orllewinol Moel y Geifr) sy’n dyddio o rhwng yr 17eg a’r 19eg ganrif. Mae’n bosibl mai llechfeddiannau ymylon yr ucheldir o’r 16eg ganrif yw'r caeau o amgylch y ffermydd hyn, lle roedd pobl wedi byw ynghynt (yn y cyfnod cynhanesyddol) ond wedi’u gadael.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Safleoedd cynhanesyddol creiriol, caeau

Gorwedd yr ardal ucheldirol hon yn un o’r rhannau lleiaf ffafriol yn Ardudwy o ran amaethyddiaeth, ac am y rheswm hwn yn rhannol, goroesodd cyfoeth o archeoleg greiriol sy’n dal i sefyll yn yr ardal, yn enwedig o amgylch bryngaer Moel Goedog yn y de, ac ar lethrau Moel y Geifr yn y gogledd. Disgrifiwyd llawer o’r archeoleg greiriol sy’n arbennig o nodweddiadol o’r ardal hon yn yr adran uchod. Ceir crynodiad o feini hirion a charneddau cylchog yn y de, a grwp o garneddau yn y gogledd. Grwpiau cnewyllol o dai mewn tyddynnod cryno amgaeedig neu agored yw nodweddion arbennig y dirwedd yn y fan hon, ac mae llawer ohonynt yn cadw siâp cromlinog yn bennaf y gellir gweld ei fod wedi datblygu o gynllun crwn gwreiddiol. Yn ogystal â hyn, ceir llawer o nodweddion creiriol llai sylweddol (gan gynnwys llawer nad ydynt eto wedi’u cofnodi) sy’n rhan bwysig o hanes a thirwedd yr ardal. Mae’n syndod bod canol yr ardal yn ‘wag’ o safleoedd archeolegol, ond mae’n bosibl mai arwydd o’r ffaith na wnaed fawr o waith maes yno yw hyn. Mae’n bosibl bod gwreiddiau’r patrwm afreolaidd o gaeau o amgylch y ffermydd yn yr ardal ogleddol, i’r gogledd-orllewin o Foel y Geifr yn y cyfnod cynhanesyddol (y rhan fwyaf o ardal safleoedd y tyddynnod cynhanesyddol), ond mae’n bosibl fod y rhai o’r cyfnod diweddarach yn dangos llechfeddiannu o’r 16eg ganrif ymlaen i ymylon yr ucheldir. Mae hyn yn arbennig o nodweddiadol o’r ymylon ucheldirol, nid yn Ardudwy yn unig ond hefyd ymhellach i’r gogledd yn Sir Gaernarfon (er enghraifft o amgylch Nantlle). Y tu allan i’r fan hon, mae waliau sychion sylweddol (o’r 19eg ganrif, mae’n debyg) yn rhannu’r ardal gyfan yn llociau mawr, afreolaidd eu siâp, er bod y patrwm yn llai rheolaidd na mewn mannau eraill ar ucheldir Ardudwy (ardal 02, er enghraifft). Ceir nifer fach o ffermydd ucheldirol o gerrig ar lethrau serth Moel y Geifr sy’n wynebu’r môr. Nid oes ffyrdd yn yr ardal, a dim ond trwy ddilyn lôn serth sy’n dringo trwy ardal 22 y gellir cyrraedd y ffermydd. Nid oes unrhyw ddatblygiad modern yma.

Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Ardudwy

 

 

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol