English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardudwy- Ardal 31 Glyn-cywarch (PRN 18264)

 


© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl, Ymddiriedolaeth Archaeoloegol Gwynedd, 100017916 2005

Cefndir hanesyddol

Codwyd y ty gan William Wynn ym 1616 (ar safle un cynharach, o bosibl), a gallai'r porthdy fod yn gyfoes ag ef, er nad oes dyddiad i'w weld arno. Estynnwyd ac adferwyd y ty yn ystyriol yn y 1870au. Mae darlun gan Moses Griffiths yn dangos y tyˆ ym 1805. Yn ddiweddarach yn yr 17eg ganrif, daeth y stad trwy briodas i ddwylo Owens o Clenenney a Brogyntyn, ac am y rhan fwyaf o’r 18fed ganrif, ty’r asiant oedd y Glyn. Yn y 19eg ganrif, dechreuwyd ei ddefnyddio ar gyfer ymweliadau yn ystod y tymor gwyliau. Mae’n parhau i fod yn eiddo i’r un teulu (er gwaethaf sawl newid yn yr enw oherwydd ei fod wedi pasio i lawr trwy ferched y teulu), ac mae'n parhau i fod yn ail gartref, ffaith a allai fod wedi cyfrannu at ei oroesi heb fawr o newid. Fodd bynnag, gallai’r ffaith fod y teulu wedi derbyn Barwniaeth Harlech ym 1876 awgrymu bob amser wastad wedi ystyried y stad yn un bwysig iddynt.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Ty o ddechrau’r 17eg ganrif â gardd fechan led-ffurfiol, gardd lysiau â muriau o'i hamgylch, parc a choetir helaeth

Mae'n debyg fod y teras o flaen y ty, a’r libart rhwng y ty a’r porthdy, yn ogystal ag ardaloedd eraill yn agos at y ty, yn dilyn cynllun gwreiddiol yr 17eg ganrif i raddau helaeth. Mae’n bosibl hefyd fod yr ardd furiog bresennol ar safle gardd gaeedig wreiddiol. Mae’n parhau i gael ei chadw yn dda yn yr arddull draddodiadol. Mae’n bosibl nad oedd y cynllun, gyda choetir ar un ochr i’r dyffryn, y ty yn y pen pellaf, a pharcdir agored ar yr ochr arall, wedi newid fawr dim hyd ddiwedd y 19eg ganrif, ac mae newidiadau i’r ty yn ystod yr adeg honno yn dangos fod cyfnod o ail-gydio yn eu gweithgareddau. Mae’n debygol fod y twr gwylio ar frig ochr ogledd-orllewinol y dyffryn, a'r llwybr sy'n arwain ato yn dyddio o’r cyfnod yma, ac mae'n debyg bod hyn yn wir hefyd am beth o'r plannu addurnol sydd wedi goroesi. Mae’r fferm, sy’n agos at y ty ond ar lefel is ac wedi ei chuddio, yn dyddio o’r 19eg ganrif. Planhigfeydd conwydd o’r 20fed ganrif yw’r rhan fwyaf o’r coetir erbyn hyn. Mae’r ty yn un rhestredig gradd II* a’r porthdy yn radd II. Mae’r safle’n ymddangos yng Nghofrestr Cadw/ICOMOS o Dirweddau, Parciau a Gerddi: rhan 1 yn radd II* a saif ar dir Parc Cenedlaethol Eryri. Mae'r ardd furiog yn cael ei defnyddio o hyd, sydd yn anarferol, ac mae mewn cyflwr da. Dylid gwneud ymdrech i gefnogi hyn.



Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Ardudwy

 

 

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol