English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardudwy - Ardal 30 Morfa Harlech - caeau (PRN 18263)

 

 


© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl, Ymddiriedolaeth Archaeoloegol Gwynedd, 100017916 2005

Cefndir hanesyddol

Yn y cyfnod canoloesol, adeiladwyd castell Harlech (a’r dref – ardal 18) ar benrhyn creigiog uwchlaw’r môr. Dros y canrifoedd dilynol, fe lenwodd yr ardal islaw’r dref â llaid, ac ystyrid hi yn anialdir corsiog. Wedi i stad Glyn-cywarch gau a draenio rhan o Forfa Harlech (ardal 31) ym 1789 fe gollodd bwrdeisiaid y dref (Harlech, ardal 18) hawliau tir comin yno. Mae’r ardal wastad wedi cynnwys cyfres o ynysoedd a brigiadau alltraeth (fel Traeth Mawr ar draws aber afon Glaslyn), fel y tystia lleoedd â’r elfen ‘ynys’ yn eu henwau (ardal 19, er enghraifft, a’r Lasynys lai sy’n gysylltiedig â’r llenor Ellis Wynne (1671-1734) (Y Bardd Cwsg)).

Dargyfeiriwyd y brif ffordd gogledd-de o Borthmadog i Abermaw yng nghanol y 19eg ganrif, o’i hynt wreiddiol ar waelod llethrau'r bryniau arfordirol (ardal 29) ac mae bellach yn croesi’r morfa mewn llinell syth fwy neu lai, ar ôl croesi pen gogleddol yr ardal i gysylltu ag anheddiad Ynys a oedd cyn hynny yn ddiarffordd (ardal 19). Tua’r un adeg, adeiladwyd Rheilffordd y Cambrian, ac mae hon yn croesi’r ardal o islaw tref Harlech i bont ar draws afon Dwyryd ar ben gogleddol y morfa. Sefydlwyd cyfres o ffermydd o ddiwedd y 19eg ganrif (a dechrau’r 20fed) ar hyd linell y ffordd (gan gynnwys Ty’n yr acrau, Ty’n y ffordd, Glyn Morfa, Ty Canol), a phlannodd y Comisiwn Coedwigaeth gonwydd hollbresennol ar ardal fawr y tu ôl i’r twyni (ardal 32) yn yr 20fed ganrif. Dros y blynyddoedd diweddar, mae tref Harlech sy’n brysur ehangu a chwrs golff wedi ymledu ymhellach ar ran ddeheuol yr ardal. (Gweler hefyd ardal 32.)

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Corstir a adferwyd, patrymau caeau rheolaidd eu siâp, ffosydd a dorrwyd yn ffiniau, ffermydd o’r 19eg ganrif

Amaethyddol ei natur yw’r rhan fwyaf o’r ardal (ar wahân i’r coedwigoedd, y ffordd a’r ymlediad modern a grybwyllwyd uchod). Mae patrwm caeau rheolaidd eu siâp, sydd â ffosydd wedi’u torri (rhai yn cyd-redeg â’r gwrychoedd) a/neu gloddiau pridd yn eu diffinio, yn ei nodweddu. Awgryma’r darlun o’r 19eg ganrif gan Henry Gastineau, a’r ffaith fod y ffermydd yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif, bod y patrwm hwn yn un cymharol diweddar, er ein bod yn gwybod bod yr hen gors yn cael ei hadfer yn weithredol o ddiwedd y 18fed ganrif ymlaen. Mae’r ffermydd eu hunain, sy'n dyddio o ddiwedd y 19eg neu ddechrau'r 20fed ganrif, yn cynnwys tai sgwâr deulawr eithaf safonol â dau fae gyda dwy simnai ar y talcen. Er eu bod yn ymddangos fel pe byddent wedi'u hadeiladu o garreg, maent wedi eu rendro yn aml, felly mae’n bosib eu bod wedi eu hadeiladu o frics a cherrig (er enghraifft, dyma mae’n debyg sydd wedi digwydd yn achos Pen y waen). Mae gan y rhan fwyaf ohonynt dai allan cysylltiedig, naill ai wedi’u cysylltu â chefn y ty (Glyn Morfa a Ty Canol) neu o amgylch iard bach (Gilarwen). Mae gan Ty’n Morfa ’sgubor ddyrnu ddeulawr braf iawn. Mae’r briffordd y codwyd y ffermydd ar hyd ei hochr, a’r rheilffordd a osodwyd ar draws yr ardal yn ymddangos fel pe byddent o leiaf mewn rhannau yn hyˆn na'r patrwm caeau. Mae’r ardal hefyd yn cynnwys tair gorsaf rheilffordd (islaw Glan-y-wern, Talsarnau a Llandecwyn) sy'n gwasanaethu aneddiadau uwchlaw'r briffordd, sydd yn rhan ogleddol yr ardal yn parhau i fynd o amgylch ymylon y morfa. Mae rhannau eraill o’r morfa naill ai yn blanhigfeydd conwydd a blannwyd yn yr 20fed ganrif (sy’n cael eu cwympo ar hyn o bryd) neu’n dwyni tywod (ardal 32).

Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Ardudwy

 

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol