English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardudwy - Ardal 3 Y Llain arfordirol ddeheuol (PRN 18236)

 


© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl, Ymddiriedolaeth Archaeoloegol Gwynedd, 100017916 2005

Cefndir hanesyddol

Ychydig o dystiolaeth sydd bod pobl wedi byw yn yr ardal hon sy’n gyffiniol â’r môr yn y cyfnod cynnar. Mae’n bosibl fod Plas Benar a Benar Isaf yng ngogledd yr ardal yn is-ganoloesol o ran dyddiad (os gellir dilyn cysylltu enwau lleoedd sy’n cynnwys 'uchaf' ac 'isaf' mewn mannau eraill, e.e. ar benrhyn Llyn). Mae rheilffordd Arfordir y Cambrian (a agorwyd ym 1867) yn rhedeg trwy ran o'r ardal, ac mae safleoedd carafanau o'r 20fed ganrif a’r isadeiledd gwyliau cysylltiedig yn gorchuddio llawer o'r hen dir pori bellach.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Waliau sychion, meysydd carafanau, isadeiledd gwyliau glan môr

Fel y dengys y ffotograff, cyfosodiad anghyffredin o waliau sychion yn ffinio caeau o dir pori wedi'i wella (yn debyg i ardal 01) (tirwedd ffermio draddodiadol) a meysydd carafanau, canolfannau adloniant, siopau pysgod a sglodion a siopau traeth (tirwedd gwyliau glan môr nodweddiadol o’r 20fed ganrif) yw’r ardal. Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, mae’r olaf yn prysur ddisodli’r cyntaf. Ceir ychydig o ffermydd ac adeiladau fferm traddodiadol o gerrig yn yr ardal, yn ogystal â gorsaf rheilffordd. Mae’r rhan fwyaf o'r carafanau'n hir ac yn betryalog ac mae'r rhai mwyaf diweddar bron i gyd yn wyrdd ( i gydweddu â'r dirwedd!), ac wedi'u gosod yn rhengoedd trawiadol digydymdeimlad. Mae adeiladau'r isadeiledd cysylltiedig yn goegwych ac yn ymddangos yn anghydnaws mewn lleoliad sy’n dal i fod yn wledig ar y cyfan. Mae’n ddiddorol nodi bod y rheilffordd o’r 19eg ganrif, a oedd yn gyfrifol mae’n debyg am gychwyn twf yr economi gwyliau, yn gwahanu'r ardal hon oddi wrth dirwedd ffermio mwy traddodiadol ardal 01 am y rhan fwyaf o'i hyd.

 

 

Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Ardudwy

 

 

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol