English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardudwy - Ardal 24 Harlech (PRN 18257)

 

 


© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl, Ymddiriedolaeth Archaeoloegol Gwynedd, 100017916 2005

Cefndir hanesyddol

Mae castell a thref Harlech ill dau ar safle trawiadol ar benrhyn sy’n tremio dros Fae Tremadog a thros Benrhyn Llyn. Crëwyd y ddau ar y cyd fel rhan o’r gadwyn o fwrdeistrefi castell a fwriadodd Edward I i amgylchynu Gogledd Cymru. Dechreuwyd ar y gwaith o’u codi ym 1283, ac roedd y cynnydd yn ddigon cyflym i’r fwrdeistref newydd dderbyn ei siarter frenhinol y flwyddyn ganlynol. Er gwaethaf crandrwydd y castell, a oedd wedi’i gwblhau i raddau helaeth erbyn 1289, tref Harlech oedd y lleiaf o’r bwrdeistrefi a gynlluniodd Edward, a 12 trethdalwr yn unig sy’n ymddangos yng Nghofrestr Sybsidi 1292—3. Erbyn 1305, 24 oedd cyfanswm y trethdalwyr ar y tir bwrdais, ac erbyn 1312 roedd wedi codi i 29, ond nid yw’r un o’r ddau ffigwr yn awgrymu bod poblogaeth y gymuned yn fwy na 150 o bobl. Fel Cricieth gerllaw, roedd yr anheddiad canoloesol yn Harlech yn gydymaith tlawd i’w gastell ysblennydd, er bod iddo swyddogaethau masnachol a gweinyddol gan fod y llys cantref a’r sesiynau sirol yn cyfarfod yno, a chynhelid marchnad wythnosol yno ar ddydd Sadwrn, ynghyd â phedair ffair flynyddol. Ni wnaed unrhyw ymgais i godi mur o amgylch y fwrdeistref, fodd bynnag, ac mae’n sicr i rywrai ddifaru gwneud y penderfyniad hyn wedi ymosodiad Glyndwr, pan ddistrywiwyd 46 ty, sef y dref gyfan bron. Ni adeiladwyd eglwys o fewn ardal y dref gynnar, ychwaith, er bod capel canoloesol yno y nododd Speed (1610) ei fod yn sefyll yn y Stryd Fawr, yn union i’r dwyrain o’r castell yn ardal y gwesty modern. Mae’n ychwanegu bod yr adeilad adeg hynny yn ‘decayed and without use’, ac nid oes olion ohono o gwbl, er bod y safle’n ymddangos ei fod yn cyfateb i ardal maes parcio’r gwesty, gan fod y tir hwn yn ymddangos ar Fap Degwm 1843 fel ‘Chapel Yard’. Roedd mynwent fach ynghlwm wrth y capel, a daethpwyd o hyd i sawl claddiad yn ystod gwaith adeiladu ym 1808. Ni chofnodir ond ychydig o olion eraill o fywyd trefol. Roedd gan y fwrdeistref ei melin, a grybwyllir mor gynnar â 1305, ac mae Speed yn nodi mai y tu hwnt i gornel gogledd-ddwyreiniol y castell lle mae’r tir yn disgyn yn serth i lawr i’r maes carafanau oedd ei lleoliad. Roedd neuadd tref gynnar hefyd, ond ni wyddys lle oedd ei safle; roedd yr adeilad eisoes yn adfeilion ar ddechrau’r 19eg ganrif, ac roedd adeiladau eraill ar y safle erbyn 1813. Ni cheir fawr o ddogfennau am hanes diweddarach Harlech ac mae’n ymddangos na ddigwyddodd llawer yma, oddi eithr rôl y castell yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau a’r Rhyfel Cartref. Mae cynllun Speed yn awgrymu bod y fwrdeistref wedi methu ag ymadfer ar ôl ymosodiad Glyndwr, a bu’r castell yn ei feddiant am bron i bum mlynedd. Mae’r cynllun hefyd yn awgrymu llond dwrn o adeiladau daliadol ar y Stryd Fawr gyda dechrau ail stryd yn groes iddi, sef y Pen Dref presennol. Dirywiodd Harlech yn ystod y canol oesoedd hwyr wrth i’r angen am ei swyddogaeth filwrol ddiflannu, er iddi gadw peth statws gweinyddol a denu gweithgareddau masnachol newydd yn ddiweddarach gan newid cymeriad y dref i un “is-drefol” lle roedd i ddiwydiannau gwledig ar raddfa fach rôl gynyddol bwysig. Roedd disgrifiad cyfoes o’r fwrdeistref yn cyfeirio at ‘a verye poor towne ... having no traphicke or trade’, a 200 mlynedd yn ddiweddarach, gallodd Fenton arsylwi mai Harlech oedd ‘the most forlorn, beggarly place imaginable’. Harlech hefyd oedd y llys lle’r eistedda Bendigeidfran ar ddechrau ail gainc y Mabinogi, Branwen ferch Llyr, pan gyrhaedda Matholwch o Iwerddon i geisio Branwen yn wraig. Wrth gwrs, roedd y lle yn gysylltiedig â llys brenhinol, a byddai cynulleidfa’r stori yn ymwybodol o hyn.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Castell canoloesol, trefwedd o’r 19eg ganrif yn bennaf, adeiladau cerrig cain, tai yn yr arddull celf a chrefft

Harlech yw’r unig wir dref yn Ardudwy, er nad oes unrhyw adeiladau yn y dref ei hun sy’n dangos ei bod yn tarddu o’r canol oesoedd. Mae topograffeg leol y dref wedi pennu ei chynllun: saif ar lethr serth uwchlaw’r morfa, sydd bellach wedi’i gau i mewn a’i ddraenio. Stryd Fawr yw’r brif ffordd trwy’r dref (sef yr hen brif ffordd sy’n rhedeg drwy Ardudwy, ond sydd bellach yn rhedeg ar hyd y morfa ac yn dringo’r rhiw ar ben deheuol y dref) ac mae’n debyg ei bod yn dilyn hynt y brif stryd ganoloesol. Mae’r adeiladau oll wedi eu hadeiladu o gerrig, mewn cymysgedd dryslyd o arddulliau, ond yn rhai o’r 18fed a’r 19eg ganrif yn bennaf (er bod tu blaen o’r 20fed ganrif gan lawer o’r adeiladau annomestig), y rhan fwyaf ohonynt mewn terasau byrion, naill ai’n 2 neu’n 3 llawr o uchder. Mae’r stryd hon yn cynnwys y rhan fwyaf o amwynderau’r dref – yn ogystal â thai teras, ceir siopau, banciau, meddygfa, llyfrgell, capel, gwestai a thai bwyta. Mae Pendref, sydd hefyd mae’n debyg yn gorwedd ar hynt hen stryd ganoloesol, yn arwain yn groes o’r Stryd Fawr ac yn dringo rhiw serth iawn. Ar wahân i’r gwesty ar y gornel, mae’r rhan fwyaf o’r adeiladau yma, pob un ohonynt ar ochr ddeheuol y stryd, yn derasau byr o dai deulawr. Ceir teras hwy, eto’n groes i’r ochr ogleddol, ac uwchlaw’r rhain saif nifer o dai mwy ar arddull ‘fila’ yn eu gerddi eu hunain. Wrth i’r brif stryd adael y dref i gyfeiriad y de, mae’n dilyn dolen er mwyn cadw at gyfuchlin y tir lle mae’n newid yn Ffordd Isaf. Islaw hwn mae cyfres o dai teras o gerrig, ac mae llawer o’r rhain yn rhestredig: yn eu plith mae Tryfar (sawl teras byr o dai deulawr a thri-llawr o wahanol arddulliau gyferbyn â theras llai o dai sydd oll yn dilyn yr un patrwm) a Theras Bronwen (teras ysblennydd o adeiladau sydd oll yn dilyn yr un patrwm, yn dai dau-fae, 3 llawr o’r 19eg ganrif. Gwelwyd ffurfiau trawiadol o bensaernïaeth gerrig yn parhau gyda thraddodiad cryf celf a chrefft ar ddechrau’r 20ed ganrif: gwelir hyn ar ei orau yn y gyfres o dai ar ymyl ddeheuol y dref uwchlaw Ffordd Isaf, pob un wedi’i gynllunio’n unigol a’i godi yn ei ardd ei hun (megis meddygfa Bron Meillion, Maelgwyn, Perthi) yn gysylltiedig â grwp cosmopolitaidd o arlunwyr ag A. Davidson yn eu canol. Daeth ei gartref i fod yn graidd Coleg Harlech sydd i lawr yng ngwaelod y dref ger y rheilffordd. Mewn mannau eraill mae tai mawr ar wahân o’r 18fed a’r 19eg ganrif (llawer ar arddull ‘fila’) wedi'u gosod mewn cynllun afreolaidd islaw’r castell, yn ogystal â gwestai, sy’n brawf o bwysigrwydd cynyddol Harlech fel cyrchfan gwyliau.


Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Ardudwy

 

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol