English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardudwy - Ardal 18 Llanbedr (PRN 18251)

 


© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl, Ymddiriedolaeth Archaeoloegol Gwynedd, 100017916 2005

Cefndir hanesyddol

Mae cysegriad yr eglwys yn Llanbedr yn ganoloesol, ond nid oes tystiolaeth o anheddu cynnar yn adeiladau presennol y pentref, pob un ohonynt yn fwy diweddar (18fed i’r 20fed ganrif). Datblygodd yr anheddiad fel datblygiad hirgul llac â’r bont (sy’n henebyn hynafol rhestredig) yn ei ganol yn cludo’r brif ffordd o’r gogledd i’r de dros Afon Artro. Mae’r eglwys a chnewyllyn yr adeiladau cynharach yn ymddangos ar ochr ogleddol yr afon a oedd yng nghwmwd Ardudwy Uwch Artro yn y cyfnod canoloesol cynnar. Mae’r rhan fwyaf o’r adeiladau yn dyddio o’r 18fed a’r 19eg ganrif, ac yn ymwneud â datblygiad yr anheddiad yn yr olaf o’r ddwy, o amgylch Gwesty’r Victoria a oedd yn dafarn coets fawr strategol ar y briffordd i lawr yr arfordir. Mae’r anheddiad hefyd yn ffurfio croesffordd gyda ffyrdd yn rhedeg i’r dwyrain tuag at ddyffrynnoedd diarffordd Cwm Bychan a Chwm Nantcol, ac i’r gorllewin i lawr i’r traeth a’r twyni, lle daw’r ffordd i ben ger cyrchfan gwyliau Mochras. Fe dyfodd y tai a nifer o adeiladau masnachol (tafarn, ysgol, siop, swyddfa'r bost, garej) ar hyd y pedair ffordd yma. Ar ddiwedd y 19eg ganrif a’r 20fed, adeiladwyd sawl ‘fila’ gwyliau ar gyrion y pentref (yn enwedig ar yr ochr ogleddol) gan bwysleisio cyfeiriad datblygiad yr economi lleol.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Anheddiad hirgul o’r 19eg a’r 20fed ganrif

Anheddiad cnewyllol bach deniadol ydyw ar groesfan afon Artro. Gorwedd yr adeiladau hyn (o ddiwedd y 18fed ganrif, yn bennaf) ar ochr ogleddol hon, ac yn eu plith mae’r prif adeiladau masnachol (er enghraifft, tafarn Victoria, adeilad un llawr â chynllun mewnol nodweddiadol astrus y mae ei stablau sylweddol a’i dai allan yn sefyll dros y ffordd fach i’r gogledd, Siop y Wenallt (adeilad mawreddog, helaeth ei faint ag iddo ffrynt dwbl, gweler y ffotograff) ac adeiladau eraill sydd bellach yn dai bwyta yn gwasanaethu'r fasnach wyliau). Mae adeiladau masnachol a domestig eraill yn ymestyn ar hyd y ffordd tuag at Lanfair, lle mae'r eglwys ganoloesol, siopau, cwpl o gapeli o’r 19eg ganrif a ‘filas’ o’r 20fed ganrif yn eu tiroedd eu hunain, yn ychwanegu at gymeriad yr anheddiad. Mae'n ymddangos fod gan lawer o'r adeiladau masnachol iardiau a thai allan sylweddol yn y cefn. Mae’r rhan fwyaf o’r adeiladau domestig yn yr anheddiad hwn yn dai ar wahân, rhai ohonynt â gerddi mawr (i’r gogledd ac i’r de o’r afon). Mae Plas Gwynfryn, er enghraifft yn gasgliad mawr o adeiladau, ond mae eraill megis Ty’n Ddol a Bronafon yn llai ond eto'n sylweddol, ac yn dyddio, mae'n debyg, o ddechrau'r 19eg ganrif. Mae’r rhan fwyaf o’r tai yn rhai deulawr a chanddynt ddau fae fel rheol; mae defnyddio ferandas â tho ar y tu blaen ar lefel y llawr gwaelod yn nodwedd gyffredin. Ceir hefyd enghreifftiau da o dai teras yn yr anheddiad, pob un ohonynt i’r de o’r afon: mae’r rhain yn cynnwys un ag iddo bum ty (gan gynnwys Mona a Derwen) ar hyd y briffordd (sydd unwaith eto yn dai deulawr â ffenestri dormer yn y talcen sy’n wynebu’r blaen ar y llawr uchaf) a Theras Moelfre sydd ar hyd y ffordd sy’n arwain at y traeth. Teras diddorol yw hwn o grwpiau bychain a adeiladwyd mewn arddulliau gwahanol ond sydd eto’n gydnaws â’i gilydd, a chanddynt ffenestri dormer ar y llawr uchaf yn wynebu’r ffordd. I’r gorllewin mae teras byrrach mwy trawiadol o dai mawr tri-llawr â gerddi ffrynt sylweddol. Mae’n debyg eu bod yn dyddio o ddechrau’r 19eg ganrif. Ceir grwp o dai ar wahân o’r 20fed ganrif â’u gerddi eu hunain wedi’u tirlunio o’u hamgylch (er enghraifft, Craig Artro) i’r de o’r anheddiad cnewyllol. Mae’r orsaf rheilffordd beth pellter y tu allan i brif ganolfan y pentref, ar y ffordd sy’n arwain i lawr at y traeth (ardal 14), sy’n nodweddiadol o’r aneddiadau o’r 19eg ganrif sydd wedi tyfu ar hyd y briffordd yn yr ardal yma. Mae’r holl adeiladau wedi’u codi o garreg nadd (gwenithfaen tywyll), gydag un eithriad, sef adeilad yn union i’r de o’r bont (bellach yn hostel ieuenctid) sydd wedi ei adeiladu’n anghydnaws o frics. I’r dwyrain o’r pentref mae melin mewn cyflwr da a ffrwd gysylltiedig, sy’n gysylltiedig â chwarel lechi fechan.



Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Ardudwy

 

 

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol