English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardudwy - Ardal 12 Dyffryn Ardudwy a Choed Ystumgwern (PRN 18245)

 

 


© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl, Ymddiriedolaeth Archaeoloegol Gwynedd, 100017916 2005

Cefndir hanesyddol

Mae’r ardal nodwedd hon yn cynnwys dau anheddiad hirgul cyffiniol i bob pwrpas, sef Coed Ystumgwern a Dyffryn Ardudwy. Canolfan traddodi Ardudwy uwch Artro yn y cyfnod canoloesol oedd Ystumgwern, er na wyddys lle yn hollol oedd union leoliad y llys (mae’r fferm sy’n dwyn yr enw ‘Ystumgwern’ ychydig y tu allan i’r ardal anheddu i’r gogledd orllewin (yn ardal 14)). Fel yn achos yr holl aneddiadau cnewyllol yn Ardudwy, fe ddatblygodd yr anheddiad yma o ddifrif yn y 19eg ganrif ar hyd y ffordd a oedd wedi’i gwella (unwaith eto, mae’r rheilffordd beth pellter i ffwrdd i’r gorllewin), gyda chreiddiau cynnar o adeiladau (a oedd wedi’u lleoli’n fras o amgylch y ddwy eglwys), er bod clystyrau bychain cynharach o adeiladau ychydig islaw’r briffordd. Yn wahanol i Lanbedr (ardal 18) a Thal-y-bont (ardal 8), y ddau wedi tyfu o groesfannau ffordd/afon strategol, fodd bynnag, mae'n debyg nad oedd unrhyw reswm amlwg dros ddatblygu Dyffryn Ardudwy (nid oes yno unrhyw dafarn coets fawr, er enghraifft). Profodd Dyffryn Ardudwy fwy o ehangiad yn yr 20fed ganrif, wrth i stadau tai gael eu hadeiladu ar ben deheuol y pentref o amgylch yr ysgol yn y 1930au, ac i fyny llethr y bryn y tu ôl yn y 1960au. Mae yno gyfres o adeiladau masnachol sy’n darparu gwasanaethau lleol.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Anheddiad hirgul o'r 19eg ganrif o amgylch craidd cynharach

Mae clwstwr llac o adeiladau cerrig o ddiwedd y 18fed/dechrau’r 19eg ganrif yng Nghoed Ystumgwern, ychydig islaw’r briffordd o amgylch sgwâr â ffordd. Mae stadau tai mwy diweddar (20fed ganrif) (wedi’u cynllunio yn rhesi) i fyny llethrau’r bryniau ar yr ochr arall. Mae’r brif ffordd yn y fan hon yn rhedeg yn bendant ar hyd gwaelod llethr serth y bryn. Mae prif ganolfan ardal gadwraeth Dyffryn Ardudwy yn cynnwys amrediad o adeiladau min y ffordd o’r 19eg ganrif gan gynnwys siopau, meddygfa, banc, swyddfa’r post, ysgol gynradd a thai (a garej fodern). Mae'r rhan fwyaf o'r tai yn rhai ar wahân a chanddynt eu henwau eu hunain (y mwyafrif yn dyddio o'r 19eg ganrif ac o amrywiol gynlluniau), unwaith eto islaw’r ffordd ac yn hyn na hi, pan oedd mwy o le ar gael, fe ymddengys: ceir dau deras sylweddol (yn dyddio, mae'n debyg, o ddiwedd y 19eg ganrif) uwchlaw’r ffordd (yr ochr ddwyreiniol) yn rhan ogleddol y pentref (gweler y ffotograff). Ar wahân i’r adeiladau hwyrach o’r 20fed ganrif, adeiladwyd popeth o gerrig, er bod llawer o’r tai cynharach yn nodweddiadol wedi’u gwyngalchu. Unwaith eto, lleolir yr orsaf reilffordd islaw'r anheddiad (yn ddiddorol, mae hi ger eglwys ganoloesol Llanenddwyn) ar ffordd a arferai redeg i lawr at y traeth.


Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Ardudwy

 

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol