English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardudwy - Ardal 1 Caeau, llethrau isaf y bryniau (PRN 18234)

 

 


© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl, Ymddiriedolaeth Archaeoloegol Gwynedd, 100017916 2005

Cefndir hanesyddol

Mae’r ardal yn cynnwys tystiolaeth o anheddu cynhanesyddol hwyr ar ffurf nifer o dyddynnod amgaeedig a llociau cysylltiedig. Mae ffotograffau a gymerwyd o’r awyr wedi dangos bod potensial ar gyfer cofnodi aneddiadau cynnar estynedig pellach fel gwrthgloddiau sydd wedi diflannu wrth i’r tir gael ei aredig. Mae’r ardal yn ffrwythlon yn amaethyddol ac fe fu amaethu helaeth ynddi yn y gorffennol. Mae yma sawl ty is-ganoloesol (o'r 16eg ganrif ymlaen) (e.e. Egryn, Hendre-fechan, Hengwm) sy’n dangos bod ffermydd mawr wedi’u sefydlu’n gynnar ar y tir gwell. Ym mhen deheuol yr ardal, mae'r enwau Hafoty a Ffridd fechan yn awgrymu ehangiad i ymylon yr ucheldir ar ryw adeg yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Waliau sychion, caeau, tai ôl-ganoloesol, archeoleg greiriol

Mae’r ardal hon mewn coridor cul rhwng y môr a llethrau uchaf y mynyddoedd ychydig i’r gogledd o Lanaber. Mae’n cynnwys caeau ar dir a gafodd ei wella ar lethrau isaf ffrwythlon y bryniau rhwng prif ffordd A496 a lle hefyd mae ongl y llethr a phatrwm y caeau’n newid wrth i’r tir ddod yn llai ffrwythlon (ardal 02). Waliau sychion enfawr y caeau sy’n nodi rhannu'r dirwedd yn gaeau eithaf mawr, rheolaidd eu siâp yw nodweddion pennaf y dirwedd hanesyddol yn yr ardal hon. Mae’r gwrthgyferbyniad rhwng y muriau sydd bron yn wyn a’r borfa werdd yn arbennig o drawiadol. Mae’r rhan fwyaf o’r rhain yn dyddio o’r 19eg ganrif. Fodd bynnag, yn rhan uchaf yr ardal yn arbennig, mae llawer o'r caeau yn afreolaidd eu siâp, eu maint a'u cynllun, ac ar y cyfan rhai bach ydynt. Waliau sychion a godwyd ag amrywiaeth o dechnegau sy’n diffinio’r caeau. Mae patrwm cromlinog llawer ohonynt yn datgelu eu gwreiddiau yn y cyfnod cynhanesyddol, ac mae llawer o safleoedd aneddiadau a llociau cynhanesyddol mewn cyflwr da (yn ogystal â rhai sydd wedi diflannu wrth i’r tir gael ei aredig) yn yr ardal hon (er enghraifft Hendre-eirian ac o amgylch Eithin-fynydd). Tir pori eithaf da wedi ei wella yw sail amaethyddol yr ardal. Mae nifer o gorlannau yng nghorneli rhai o’r caeau. Mae patrwm anheddu o ffermydd gwasgaredig hefyd yn nodweddu’r ardal, a’r rhain yn amrywio o ran dyddiad, maint a phwysigrwydd o Abaty Egryn o’r 16eg ganrif i ffermydd bychain yr ucheldir, megis Ffridd Fechan, sy’n dyddio o’r 19eg ganrif. Mae’n bosibl fod patrymau’r caeau yn ne’r ardal, a’r enw Hafoty, yn gysylltiedig â llechfeddiannu’r ucheldir diffaith ar ôl y 16eg ganrif. Yn wir, y tu allan i anheddiad Llanaber, mae’r holl anheddu ar hyd y darn hwn o’r arfordir o fewn yr ardal a nodwyd.

 

Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Ardudwy

 

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol