English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Amlwch – Ardal 9 Y Mwyngloddiau PRN 28649


Mynydd Parys


 

 

Cefndir Hanesyddol

Mwynglawdd copr eang wedi'i leoli ar Fynydd Parys, cefnen 147m o uchder i'r de o dref borthladd Amlwch; mae ei weithfeydd a'r tomenni gwastraff lliwgar yn nodweddion amlwg iawn ar y mynydd a'r ardal o gwmpas. Cafodd y mwynglawdd ei weithio fel gwaith brig ac o dan ddaear. Mae wedi ei astudio'n helaeth gan haneswyr ac archaeolegwyr.

Mae ei wreiddiau yn gynnar yn yr Oes Efydd, pan weithiwyd lefelau tanddaearol ar ochr ogleddol y safle. Mae tystiolaeth amgylchiadol yn awgrymu gwaith gan y Rhufeiniaid ac yn y Canol Oesoedd, ond ni ddaeth y mwyngloddiau'n weithgar tan y 1760au pan ail-ddarganfuwyd mwyn copr iselradd ger yr wyneb. Cafodd y mwyngloddiau brig sylweddol eu creu tua diwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg; wedi hynny, daeth yn fwyfwy cyffredin i dynnu'r mwyn o siafftiau, gan ddefnyddio ceffylau ar y cyfan, er bod peiriannau stêm ar waith mewn rhai achosion. Cafodd ynni stêm a gwynt eu defnyddio ar gyfer pwmpio hefyd. Roedd mwynau'n cael eu calchynnu ar y safle.

Daeth y mwyngloddio dwfn i ben i bob pwrpas yn yr 1880au, er bod archwilio yn parhau heddiw gan Anglesey Mining plc, is-gwmni i'r Imperial Metals Corporation o Vancouver. Mae'r ffram-ben yn sefyll dros siafft a dyllwyd yn 1988.

 

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Tirwedd mwyngloddio hanesyddol

Mae'r ardal wedi ei diffinio gan ddwy chwarel fawr ger y copa sy'n dyddio o flynyddoedd olaf y ddeunawfed ganrif ac a grëwyd trwy bolisi bwriadol o ddymchwel y gweithiau tanddaearol oedd wedi eu hagor ers 1768. Oherwydd bod angen dilyn y gwythiennau yn ddyfnach o dan ddaear, adeiladwyd dau o'r adeiladau sy'n sefyll fwyaf amlwg ar y safle, y ddau ohonynt yn gweithio pympiau tanddaearol. Mae'r cwt injan ger ymyl ogledd-ddwyreiniol y safle (SH 447 907) yn dyddio o 1819, a 'r gred yw mai hwn yw'r enghraifft hynaf sy'n goroesi yng Nghymru o gwt a godwyd ar gyfer injan drawst Gernywaidd. Cafodd y tŵr melin wynt sydd ar gopa'r mynydd ei godi yn 1878 i gynorthwyo injan bwmpio stêm gyfagos, a dyma'r nodwedd amlycaf ar dirwedd y mynydd - gellir ei weld o bellter mawr. Nid oes unrhyw beirianwaith wedi ei gadw o fewn y naill adeilad na'r llall.

Adeiladau eraill sydd wedi goroesi ar y mynydd ydy swyddfeydd y ddau gwmni a fu'n gweithio'r mwynglawdd yn y ddeunawfed ganrif ac ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd iard bedronglog Mwynglawdd Mona yn bodoli erbyn 1786. Mae wedi adfeilio'n arw erbyn hyn. Ar un adeg, roedd yma efail, storfa galch, sied wagenni, ffwrnais, siopau seiri, swyddfa brofion, stablau, gwaith turnio a lle i'r elor. Mae llai fyth yn weddill o iard Mwynglawdd Parys, ond mae'n debyg y byddai wedi ei gosod allan mewn modd tebyg.

 

Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Amlwch

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol