English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Amlwch – Ardal 2 Anheddiad Porth Amlwch PRN 28642


Sgwâr Porth Amlwch

 

 

Cefndir Hanesyddol

Mae'r ardal hon yn cynnwys y rhannau ble'r ymgartrefodd pobl tua chanol i ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg o gwmpas Lon Wen, Llyn Brics, Stryd Llywelyn a Gallt Ednyfed i'r dwyrain o'r harbwr, datblygiad hirgul ar hyd Ffordd Llaneilian, a phreswylfeydd o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg ar hyd Stryd y Glorian. Mae map Francis o 1828 yn dangos yr ardal hon yn cael ei datblygu. Mae'n cwmpasu datblygiadau tai a godwyd wedi'r rhyfel, gan gynnwys stad Craig y Don a adeiladwyd yn y 1950au ar safle'r gweithfeydd mwyndoddi.

 

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Anheddiad cymysg gyda phatrwm strydoedd a rhai nodweddion hanesyddol.

Dyma'r rhan o anheddiad Porth Amlwch sydd oddi allan i'r Ardal Gadwraeth. Mae'n cynnwys nifer o adeiladau o flynyddoedd cynnar y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond mae eu heffaith wedi'i gwanhau yn sgil defnydd helaeth o ro chwipio a ffenestri a drysau plastig, yn ogystal ag adeiladau o flynyddoedd olaf yr ugeinfed ganrif sydd wedi eu hadeiladu ar hyd y strydlun.

Mae rhan hynaf yr anheddiad wedi'i leoli o gwmpas lonydd bach troellog i'r dwyrain o'r porthladd. Mae rhai o'r preswylfeydd yn perthyn yn bendant i'r traddodiad pensaernïol brodorol ac mae ganddynt dipyn o gymeriad anheddiad a godwyd bron yn gyfangwbl ddi-gynllun, gyda thai yn cael eu codi â'u drysau cefn yn wynebu'r stryd (e.e. SH4522 9325). Fodd bynnag, mae'r rhain yn gymysg â thai dosbarth-canol llawer mwy sylweddol o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, megis Ael y Bryn (SH 4523 9316). Mae Ffordd Llaneilian yn ddatblygiad hirgul a thai dosbarth-canol o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg sydd amlycaf yno. Maent wedi eu gosod i ffwrdd o'r ffordd gyda gerddi ffrynt o'u blaenau. Mae'r ddau gapel trawiadol sydd o fewn yr ardal gymeriad hon wedi'u lleoli yma. Nid yw Capel Carmel yn SH 4508 9306 mewn defnydd bellach ac mae mewn cyflwr gwael, ond mae'n enghraifft wych o gapel â bwa corongylch o'r 1860au y credir iddo gael ei gynllunio gan Thomas Thomas o Landŵr, Abertawe; mae Peniel yn un o glasuron pensaernïaeth Y Celfyddydau a'r Crefftau gan Richard Davies o Fangor ac yn dyddio o 1898-1900 (SH 4519 9312).

Mae stad dai Craig y Don wedi'i lleoli ar safle'r cyn-weithfeydd mwyndoddi copr, ac mae'n ffurfio grŵp tynn o dai pâr atyniadol â thoeau teils o liw nodedig (SH 4472 9323).

 

Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Amlwch

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol