Hen Gastell, Llanwnda
Mae’r Hen Gastell yn safle bach, ond trawiadol gyda ffos fawr a chlawdd allanol ond mae’r rhan fewnol yn eithriadol o fychan. Profodd waith gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd yn 2014-2016 ei fod yn safle amddiffynnol canoloesol ac nid o Oes yr Haearn fel y tybwyd yn flaenorol. Yn fwy na thebyg bu’n gartref i arglwydd lleol Cymreig gyda neuadd bren neu efallai bod tŵr pren y tu mewn hyd yn oed.

 

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol