Blog Hedd yr Ynys gan Jane Kenney

Gorffennaf 2016
Hedd yr Ynys, Llangefni

Diwrnod 1 - 30 Mehefin 2016

Er nad yw'r gwirfoddolwyr yn cyrraedd tan Ddydd Llun mae'r gwaith wedi dechrau wrth i ni baratoi'r safle ar gyfer y gwaith cloddio. Cafodd y cae ei droi yn y gorffennol felly does dim disgwyl i unrhyw olion archaeolegol fod wedi goroesi yn y pridd uchaf ac o ganlyniad rydym wedi defnyddio peiriant i symud y pridd a'r tyweirch.

 

Yn ystod y gwaith yma bu Cliff ‘Beaver' Hughes a Ian Harrison-Brown yn archwilio'r pridd gyda synhwyrydd metal a chofnodwyd yn union lle cafwyd unrhyw wrthrych. Ymhlith y gwrthrychau roedd nifer o hoelion, llawer o ddarnau o haearn a hefyd darnau arian Fictoraidd, un pisyn dime Americanaidd, pwysau plwm a gwrthrych diddorol iawn o efedd sydd heb ei adnabod eto.

Er hyn, roedd darganfyddiadau eraill hyd yn oed fwy diddorol. Cafwyd hyd i un darn gwael ei olwg o lestr pridd Rhufeinig a chrafwr callestr cyn-hanesyddol sydd yn awgrymu fod gweithgaredd yma yn y cyfnodau Rhufeinig a chyn-Hanesyddol. Mae hyn ôll yn addawol iawn. Fe rof luniau ar y Blog o'r gwrthrychau yn fuan.

Gorffennaf 4dd

Dyma ddiwrnod cyntaf y cloddio gyda gwirfoddolowyr ar y safle. Rhaid oedd gwneud y gwaith papur gyntaf, egluro am iechyd a diogelch a chefndir y safle cyn i'r gwirfoddolwyr ddechrau gweithio go iawn.

Roedd dipyn o waith glanhau'r safle gyda tryweli ond buan iawn dechreuodd nodweddion ymddangos yn y pridd. Fory cawn olwg manylach ar rai o'r ffosydd a rhai o'r clystyrau o gerrig a all fod o ddiddordeb.

Dyma ambell lun o'r gwrthrychau rydym wedi eu cael hyd yma. Lluniau sydun yw rhain o'r gwrthrychau heb eu glanhau ond cawn awgrym or hyn sydd ar y safle. Daeth y gwrthrychau o'r pridd uchaf a chafwyd hyd iddynt drwy ddefnydd o'r synhwyrydd metal ond y gobaith nawr yw y cawn fwy o wrthrychau wrth ddechrau cloddio'r nodweddion.

Awgrymir y gwrthrychau fod defnydd o'r safle yn y cyfnod Rhufeinig.

Gorffennaf 5ed

Pawb yn brysur cloddio. Does neb yn gwybod beth sydd yma eto ond mae'n edrych yn ofnadwy o ddiddorol.

Gorffennaf 8fed

Rydym ar ddiwedd yr wythnos gyntaf a mae'r tywydd wedi bod yn ffafriol. Doedd rhagolygon Dydd Iau ddim cyn waethed a'r disgwyl ac o ganlyniad i'r tamprwydd mae'n haws trywelu'r pridd.

Erbyn hyn mae sawl ffos wedi ei osod ar draws gwahanol nodweddion a bu nifer wrthi yn tynnu lluniau er mwyn cofnodi'r nodweddion.

Rydym bellach wedi darganfod ffos y lloc petryal a welir yn yr arolwg geoffisegol. Cafwyd hyd i wrthrych o garreg gyda ochr miniog fel pyramid yn y ffos: beth oedd ei bwrpas?

Cafodd pydew sylweddol a dwfn ei gloddio. Roedd y pydew wedi llenwi a cherrig a'r ddamcaniaeth ar hyn o bryd yw mai twll postyn yw hwn wedi llenwi a cherrig ar ôl o'r postyn gael ei symud. Os felly, fe ddylid cael hyd i fwy o dyllau pyst er mwyn gweld cynllun adeilad. Awgrymir maint y twll fod hwn yn perthyn i adeilad sylweddol. Mae angen mwy o waith er mwyn draganfod tyllau pyst eraill

Cafwyd hyd i ddarn arian Rhufeinig wedi glynu i fwd ar waelod esgid un o'r gwirfoddolwyr a charreg a all fod yn ddarn o garreg hogi gan ei fod yn garreg mor llyfn ger un o'r ffosydd.

 








Gorffennaf 15

Dyma ddiwedd y cyfnod cloddio gyda gwirfoddolwyr. Dros y bythefnos rydym wedi cael nifer dda o wirfoddolwyr ac yn amlwg roeddynt wedi mwynhau y profiad. Cafwyd tywydd amrywiol gyda Dydd Iau yn ddiwrnod poeth iawn a Dydd Gwener wedyn yn ddiwrnod gwlyb. Gan mai clai yw'r pridd naturiol yma mae'r broses o drywelu yn anoddach wrth i'r pridd sychu a chaledu ond pan yn wlyb mae'n mynd yn fwdlyd dros ben ac y mwd yn mynd i bobman, gan gynnwys dros y gwirfoddolwyr. Er gwaethed y tywydd parhaodd pawb i weithio gyda gwen.

Gan fod cymaint o ffosydd a nodweddion ar y safle, nid hawdd yw dadansoddi'r hyn rydym yn ei weld ac yn enwedig perthynas y gwahanol nodweddion a'u gilydd. Ymdebygai'r nodweddion yng nghornel gogledd-orllewinol y safle i olion anheddiad. Bydd cynllun o'r safle yn cael ei uwchlwytho yn fuan.

Edrychwn ymlaen at y Diwrnod Agored Ddydd Sul. Gyda 128 wedi rhoi eu henwau yn barod mae'r teithiau tywys bron wedi eu llenwi.

 


Diwrnod poeth a’r pridd wedi caledu


Glaw drwy’r dydd a’r safle yn troi yn fwdlyd


Llun o'r safle o'r awyr gan Richard Hockin

Gorffennaf 18

Cafwyd Diwrnod Agored hynod lwyddiannus gyda dros 150 yn ymweld a'r safle. Gyda'r tywydd yn braf roedd yr ymwelwyr wedi mwynhau a rhwng y teithiau tywys roedd ein pabell gyda'r gwrthrychau yn orlawn.

Dros y ffordd roedd y caffi dros dro gan Julia Morgan yn cynnig paneidiau a chacan i'r ymwelwyr. Codwyd dros £600 ar gyfer elusen ‘Digartref', elusen sydd yn codi arian ar gyfer y di-gartref yn lleol, drwy redeg y caffi am y prynhawn.

Mae diolch mawr i staff GAT am sicrhau diwrnod mor lwyddiannus: Dave, Nina, Bethan, Rob a Rhys Mwyn am y teithiau cyfrwng Cymraeg. Gwerthfawrogwyd ymdrechion Julia a'i chyfeillion gyda'r paneidiau a chacennau.

 





Gorffennaf 22ain

Ar ôl wythnos brysur yn cofnodi, tynnu lluniau a chreu cynlluniau o'r nodweddion, mae'r gwaith ar y safle nawr drosodd. Roedd Dydd Mawrth mor poeth roeddwn yn poeni am y gwirfoddolwyr ond bu i bawb oroesi'r diwrnod. Bu mi a Dave wrthi tan yr hwyr nos Iau yn llenwi ffurflenni cyd-destyn a daeth Alan Roberts o DTM draw hefo sganiwr laser er mwyn cael cofnod olaf o'r nodweddion ar y safle.

 


Ôl-lenwi

Gorffennaf 25ain

Bu 56 o wirfoddolwyr hefo ni ar wahanol gyfnodau dros y dair wythnos a hoffwn ddiolch o waelod calon am eu holl ymdrechion. Cyflawnwyd gwyrthiau mewn cyfnod byr.

Mae diolch arbennig i Wyn a Julia Morgan am eu holl gymorth ac am ganiatau i ni gloddio.

Felly beth gafwyd ar y safle? Mae cynllun o'r safle yn dangos nifer o ffosydd gan gynnwys y ffos lloc hirsgwar a welwyd ar yr arolwg geoffisegol. Yn wahanol i'r disgwyl ni chafwyd unrhyw awgrym o fynwent ar y safle, ac yn sicr dim olion beddau.

Cafwyd un ffos sydd yn rhedeg ar linell fymryn yn afreolaidd ar draws y safle o'r dwyrain tua'r gorllewin gyda phroffil siap llythyren V sydd yn awgrymog o ffos amdiffynnol Oes yr Haearn. O edrych yn fwy manwl ar yr arolwg geoffisegol gwelir fod y ffos yma yn ymuno a ffos sylweddol tu allan i'r ardal cloddio. Gwelwn wagle yn y ffos honno gyda dau blob du ar naill ochr, sydd yn awgrymu mynedfa drawiadol gyda thyllau pyst sylweddol. Fe all fod y ffosydd yma yn rhan o loc yn dyddio o Oes yr Haearn a mewn defnydd yn y cyfnod Rhufeinig, fel yr awgrymir gan y gwrthrychau rydym wedi eu darganfod ar y safle. Mae draen gyda cerrig capan, cerrig llawr, rhigolau bach syth a phydew yn awgrym o breswylio o fewn y lloc bosib.

Gan na chafwyd gwrthrychau y gellir eu dyddio yn y nodweddion penodol yma wrth gloddio, anodd yw profi fod hwn yn aneddiad o'r cyfnod Oes yr Haearn / Rhufeinig ond mae hyn yn bosibilrwydd cryf. Fe all fod rhai o'r ffosydd ar gyfer llociau bychain neu gorlannau.

Cafwyd tri pydew o faint sylweddol yn rhan ogleddol y cloddiad. Ymddengys fod rhain o gyfnod hwyrach na'r aneddiad bosib ond ansicr yw eu pwrpas hyd yma. Fe all fod y pydewau yn dyddio o'r 16ed neu 17ed ganrif gan i ddarnau o lestri pridd o'r cyfnod yna ddod i'r amlwg yn rhan uchaf y pydewau.

Mae mwy o waith i'w wneud nawr o ran astudio'r gwrthrychau, y samplau pridd ac edrych yn fanylach ar yr holl gynlluniau o'r safle. Siawns bydd hyn yn help i esbonio beth oedd yn digwydd yma.

Fe fydd adroddiad rhagarweiniol yn barod erbyn ddiwedd Mwrth 2017 a bydd hwn ar gael ar ein safle we. Bydd adroddiad llawn yn dilyn adroddiadau am y gwrthrychau a'r samplau.


Ffos siap V


Draen gyda cerrig capan

 

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol