| Saesneg | ||||||||||
| Cyfeillion Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd | ||||||||||
Am y GyfeillionMae'r Ymddiriedolaeth wedi cydnabod ers peth amser mai dau o arfau pwysicaf cadwraeth yw addysg a chyfathrebu. Un datblygiad pwysig iawn yn ystod y deng mlynedd diwethaf felly yw llwyddiant y 'Ffrindiau'. Mae'r Ymddiriedolaeth yn gweld y 'Ffrindiau' fel cyfrwng i drosglwyddo gwybodaeth am waith prosiect diweddar ac archaeoleg gogledd-orllewin Cymru'n gyffredinol i gynulleidfa ehangach, ac i hyrwyddo gwaith yr Ymddiriedolaeth. Mae hefyd yn fframwaith sy'n galluogi aelodau o'r cyhoedd i chwarae mwy o ran yng ngwaith yr Ymddiriedolaeth. Mae'r aelodau'n derbyn cylchlythyr sy'n cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am brosiectau'r Ymddiriedolaeth, a chopi o'r adolygiad cyfnodol o brosiectau. Mae'r gweithgareddau'n cynnwys darlithoedd ac ysgolion undydd, teithiau tywys o amgylch cloddiadau ac ymweliadau â safleoedd a henebion yng Nghymru a thu hwnt. DdarlithoeddHyd yn hyn, mae dros gant yn braf o ddarlithoedd wedi eu cynnal ar themâu fel y canlynol: An Introduction to the Archaeology of Gwynedd Art and Archaeology Recent and Ongoing Archaeological Work in Wales Dark Age Kingdoms of Britain Landscapes of Wales Agriculture, Society and Environment Interpreting and presenting the past Thirty years of GAT Church Archaeology The Friends' own researches in Local (and not so local) History Cafwyd siaradwyr fel Dr Oliver Rackham (awdur 'The History of the Countryside'), Carenza Lewis (o'r 'Time Team'), yr Athro Andrew Fleming (awdur 'The Dartmoor Reeves') a'r Athro Richard Bradley (awdur llawer o lyfrau cydnabyddedig ar Brydain yn y cyfnod cyn hanes). Cawsom siaradwyr o lawer o sefydliadau gwahanol yng Nghymru gan gynnwys Cadw: Henebion Cymru, Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Prifysgol Cymru ac Ymddiriedolaethau Archaeolegol eraill. Ymweliadau â safleoedd a teithiau astudio Ireland: High Kings and High Crosses Somerset and Cornwall: King Arthur in the West Country Ireland: Kerry and the Dingle Peninsula Normandy: Castles and Abbeys of the Normans Gwyr y Gogledd: Dark Age kingdoms of northern Britain Britanny: its Megalithic inheritance Isle of Man: an Island in the Western Sea Celts, Romans and Saxons in SE England The End of Empire: The Lower Rhine Frontier End of Empire 2: The Rhone Valley |
||||||||||
![]() |
||||||||||
![]() |
||||||||||
![]() |
||||||||||
| Aelodaeth
Mae aelodaeth flynyddol yn agored i bawb a'r gost yw £10 (cyffredin), £15 (teulu), £8 (henoed) neu £5 (myfyrwyr, pobl sydd wedi eu cofrestru'n ddi-waith). Dylid anfon sieciau (yn daladwy i Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd) i'r Ymddiriedolaeth yn y cyfeiriad sydd ar y dudalen flaen, ynghyd â'ch enw a'ch cyfeiriad. Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd, Craig Beuno, Fordd y Garth, Bangor, Gwynedd LL57 2RT 0044 (0) 1248 352535 Facs 0044 (0)1248 370925 gat@heneb.co.uk |
||||||||||