| 09 Harbwr Porthmadog Cefndir hanesyddol Harbwr dwr dwfn a grëwyd yn anfwriadol o ganlyniad i adeiladu’r Cob ym 1808-1813, a sianelodd ddyfroedd Afon Glaslyn rhwng Ynys Towyn a’r Grîn. Mae’r cei cyhoeddus (SH 5688 3838) yn dyddio o 1824 pan ddechreuwyd defnyddio’r ardal hon i drosglwyddo llechi o’r cychod afon i longau mordeithiol, yn hytrach nag Ynys Cyngar i’r dwyrain, oedd yn fwy agored. Adeiladwyd harbwrs eraill yn Ynys y Tywyn a thua Borth y Gest hyd yr 1870au, ac fe’u gwasanaethid gan reilffordd yn dilyn adeiladu Rheilffordd Ffestiniog ym 1836. Ni fwriwyd ymlaen â chynllun i ddatblygu Llyn Bach (SH 5720 3873 C - yr ardal yn union i fyny’r afon o bont Britannia yn SH 5707 3847) yn harbwr ym1851. Yn ogystal â bod yn harbwr llechi sylweddol, yr oedd Porthmadog hefyd yn safle i nifer o iardiau llongau a oedd yn cynhyrchu'r ‘Western Ocean Yachts’ unigryw â dau hwylbren iddynt. Parhaodd hwn yn safle blaenllaw ym myd hwylio hyd at ddiwedd yr ugeinfed ganrif. Ychydig o ddefnydd a wnaed o'r harbwr o 1940 ymlaen, ac ers yr 1960au fe'i defnyddiwyd bron yn llwyr ar gyfer cychod pleser. Codwyd maisonettes ar nifer o’r ceiau ar ddiwedd yr 1960au. |
||||
![]() |
||||
| © Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl, Ymddiriedolaeth Archaeoloegol Gwynedd, 100017916 2005 | ||||