08 Wern

Cefndir hanesyddol

Bu ty yn y Wern ers o leiaf ddiwedd y cyfnod canoloesol, ac y mae eglwys plwyf Penmorfa gerllaw, yn debygol o fod yn un a sefydlwyd mewn cyfnod cynnar. Yr oedd y ty’n eiddo i’r teulu Wynn yn yr ail ganrif ar bymtheg, ond fe’i gadawsant yn ail ran y ddeunawfed ganrif, a’i werthu ym 1800. Bu cyfnod hir wedi hynny pryd yr oedd y ty’n wag neu’n cael ei osod ar rent, hyd nes iddo gael ei brynu gan Richard Methuen Greaves ym 1886. Ym 1892 helaethwyd ac ailadeiladwyd y ty gan John Douglas.

Adeiladwyd y terasau i’r de o’r ty mewn dau gyfnod gwahanol; yr un uchaf oddeutu 1895 gan John Douglas a’r isaf ym 1902 gan Thomas Mawson, a oedd hefyd yn gyfrifol am ddylunio’r rhodfa hir a’r pafiliwn gardd.

Defnyddir y ty bellach fel cartref henoed ond mae’r ystâd yn eiddo i’r teulu Williams-Ellis, yr ewyllysiwyd ef iddynt gan Greaves, oedd yn ddi-blant.

Nodweddion hanesyddol allweddol yn y tirwedd

Ty ôl-ganoloesol; gerddi, cysylltiad â dylunydd gerddi

Ceir parc bychan o gwmpas y ty, a gallai’r rhan i’r gorllewin, ar godiad tir, ddyddio'n ôl i'r ddeunawfed ganrif neu ynghynt (gweler y ffotograff). Mae’r rhan hon yn cynnwys bryn coediog – coedlannau a blannwyd yn wreiddiol yn y ddeunawfed ganrif mae’n debyg – gyda thy'r gwylio adfeiliedig neu ffug adeilad. Ceir llyn yno hefyd. Mae rhan ddwyreiniol y parc yn dir isel a chorsiog, ond y mae’n cynnwys dwy goedlan gron, a blannwyd mae’n debyg yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, wedi’u lleoli fel eu bod yn torri ar linell ddi-dor y gorwel.

I’r de ddwyrain o’r ty ceir tiroedd pleser, eu hanner yn anialwch a phrysgwydd, a’r hanner arall yn lawntiau gyda nodweddion ffurfiol. Mae’r anialwch tua’r de ac yn darparu sgrin ar gyfer y ffordd a’r rheilffordd, mae llwybrau drwyddo sydd bellach wedi gordyfu, a chyn ddreif yr ail-agorwyd y fynedfa iddi yn ddiweddar.

Rhwng yr anialwch a’r lawnt ddeheuol ceir ffrwd fechan sy’n ffurfio gardd ddwr yn y man lle mae’n dynesu at y dreif tua’r dwyrain. Mae’r lawntiau’n helaeth ac yn anffurfiol, gan derfynu wrth ffos gudd yn y gorllewin.

Yn croesi lled yr ardd gyfan ceir rhodfa ffurfiol gyda phergola rhosynnau a gwrychoedd yw, yn terfynu mewn gardd gron a chynllun ffurfiol iddi, yn cynnwys pafiliwn gardd bychan. Dyluniwyd hwn gan Thomas Mawson, mae’r cynllun yn ddyddiedig 1901 a dyluniad y pafiliwn 1903. I'r gogledd ohono ceir pwll lilïau cromfannol, hwnnw hefyd wedi’i ddylunio gan Mawson.

Ar y lawnt ogleddol, yn agos i’r rhodfa ffurfiol, ceir rhai coed enghreifftiol gan gynnwys coeden diwlip fawr iawn. I’r gogledd o’r lawnt ogleddol ceir llwyni a gardd gerrig wedi gordyfu.

Gallai gardd gegin sgwâr tua’r gogledd o’r ty a ddangosir ar fap degwm 1839 fod wedi bod ar safle’r ardd wreiddiol a berthynai i’r ty yn yr unfed ganrif ar bymtheg neu’r ail ganrif ar bymtheg. Pan helaethwyd y ty ym 1892, gwnaed i ffwrdd â rhan o’r ardd hon a defnyddiwyd yr hyn oedd ar ôl ohoni ar gyfer tai gwydr, a gosodwyd gardd gegin newydd tua'r gogledd ddwyrain. Mae’r ddwy bellach yn ddiddefnydd ac wedi gordyfu < yn ôl at y map

© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl, Ymddiriedolaeth Archaeoloegol Gwynedd, 100017916 2005