07 Portmeirion

Cefndir hanesyddol

Bu Clough Williams-Ellis yn datblygu’r syniad ers tro o greu pentref a fyddai’n cynnwys adeiladau da ond heb fod mewn unrhyw arddull gyson, er mwyn profi nad oedd angen i adeiladau modern fod yn hyll ac y gallai cymysgedd o arddulliau weithio – mewn geiriau eraill, nad oedd angen i bentref gael cnewyllyn o hen adeiladau i gyd yn yr un arddull, i fod yn ddeniadol. Yn 1925 darganfu, o’r môr, y safle delfrydol, a bu’n ddigon lwcus i allu ei brynu. Yr adeg hynny, yr oedd ty, sef Aber-Iâ ar y lan, gyda gardd o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, llawer ohoni wedi gordyfu’n rhannol ar y Penrhyn Gwyllt, ac ar y tir uwch yr oedd Castell Deudraeth, ty â bylchfuriau iddo, yn dyddio o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ynghyd â'r tiroedd o’i gwmpas.

Dros y deugain a phump o flynyddoedd nesaf, ac eithrio cyfnod yr ail ryfel byd, bu i Williams-Ellis gyfaddasu’r adeiladau a fodolai yno (Aber-Iâ yw Gwesty Portmeirion heddiw) ac ychwanegodd lawer eraill mewn gwahanol arddulliau. Cynhaliwyd ‘Cartref i Adeiladau Segur’, lle y cedwid gwahanol ddarnau pensaernïol, hyd nes y deuai ef o hyd i ddefnydd iddynt. Cyfeirir yn aml at y pentref fel un ‘Eidalaidd’, ond mae hyn yn asesiad arwynebol ac anghywir; mewn gwirionedd ceir cymysgedd eclectig o arddulliau, yn unol â chynllun gwreiddiol Williams-Ellis.

O’r dechrau bu’n rhaid i’r pentref gyfrannu at ei gynhaliaeth ei hun, felly bu’n agored i ymwelwyr erioed, o’r adeg yr addaswyd y ty gwreiddiol yn westy. Mae’r llu o ymwelwyr wedi cynnwys sawl person enwog – Noel Coward, er enghraifft, a ysgrifennodd Blithe Spirit tra’n aros yno – ac yn fwy diweddar darparodd y pentref gefndir ar gyfer y gyfres deledu enwog The Prisoner.

Nodweddion hanesyddol allweddol yn y tirwedd
Gerddi, gwesty, mympwyon pensaernïol, cysylltiadau

Saif y pentref mewn dyffryn bychan i’r gogledd a'r gogledd-orllewin o’r gwesty, sydd yn union ar y lan, ac yn yr ardal hon yn bennaf ceir gerddi cyhoeddus a blannwyd yn doreithiog ag amrediad eang o blanhigion a phrysgoed; mae’r hinsawdd ffafriol yn caniatáu i lawer o fathau o blanhigion lledgaled ffynnu. Ceir hefyd enghreifftiau o goed sy’n dyddio o gyfnod cyn bodolaeth y pentref. Mae’r Piazza yng nghanol y pentref ar safle gardd gegin Aber-Iâ, ac y mae'n cynnwys pwll ffurfiol bas gyda gerddi ffurfiol o'i gwmpas, ac i'r gorllewin ohono ceir pwll cwbl wahanol ei gymeriad sy'n dyddio o oddeutu 1850 ac a oedd yn rhan o ardd addurniadol Aber-Iâ. Ar y llethrau serth y tu ôl i’r pentref, ac yn arwain i lawr tua’r môr, mae llystyfiant naturiol yn cymysgu i wahanol raddau ag elfennau a blannwyd.

Mae gerddi Gwyllt, tua’r gorllewin, sy’n llawer mwy helaeth, wedi bod yn erddi hanner-gwyllt erioed, ond yr oeddynt yn cynnwys casgliad pwysig o rododendron a gasglwyd ac a fridiwyd gan berchnogion blaenorol Aber-Iâ yn ystod chwarter cyntaf yr ugeinfed ganrif. Mae llawer o’r rhododendron hyn wedi goroesi, yn ogystal â phlaniadau hyn, a phlannodd Williams-Ellis hefyd ran o’r ardal hon, er enghraifft Gardd yr Ysbrydion yn y pen gorllewinol pellaf. Ychwanegodd ychydig o adeiladau hefyd, a cheir rhai mwy diweddar hefyd, gan gynnwys gasebo ar ffurf teml glasurol a ddyluniwyd gan ei ferch Susan Williams-Ellis ym 1983. Ger y pyllau, a grëwyd yn ddiweddar hefyd, ceir pagoda modern a thy gardd.

Parheir i ddatblygu'r rhan yma o’r ardd, yn rhannol oherwydd bod yr amodau’n caniatáu i rywogaethau diddorol ac egsotig dyfu, ac yn rhannol er mwyn darparu mwy o bethau o ddiddordeb ar gyfer ymwelwyr â Phortmeirion. Mae yno fynwent i anifeiliaid anwes, a oedd yn perthyn i Aber-Iâ, ond a ddefnyddir o hyd, maes chwarae i blant a milltiroedd o lwybrau y rhan fwyaf ohonynt yn dyddio o gyfnod cyn adeiladu Portmeirion < yn ôl at y map

© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl, Ymddiriedolaeth Archaeoloegol Gwynedd, 100017916 2005