06 Plas Brondanw

Cefndir hanesyddol

Ty, o’r ail ganrif ar bymtheg mae’n debyg, gyda llawer o ychwanegiadau diweddarach, a oedd yn wreiddiol yn ddeulawr, ond bellach yn dri llawr, gyda thy'r wedi’i ychwanegu ato ym 1937, a’r cyfan wedi’i ailadeiladu yn dilyn tân ym 1951. Y plas yw cartref teuluol y teulu Williams, cyndeidiau’r teulu Williams-Ellis, a daeth i berchnogaeth y teulu Ellis, ynghyd â’r cyfenw ychwanegol, ym 1807. Erbyn dechrau’r ugeinfed ganrif, yr oedd wedi’i rannu’n wahanol anheddau, ond fe’i hadferwyd i ddefnydd fel cartref teuluol gan Clough Williams-Ellis. Ef a osododd y gerddi presennol allan a pharhaodd i wneud newidiadau bychain i’r ty hyd ddiwedd yr 1960au.

Nodweddion hanesyddol allweddol yn y tirwedd

Ty annedd canoloesol diweddarach a gerddi o’r ugeinfed ganrif

Gallai’r parc bychan sy’n eiddo i Blas Brondanw ar lethrau sy’n wynebu i’r gogledd orllewin ar gyrion y Traeth Mawr, fod o’r un dyddiad a’r ty gwreiddiol. Mae’r ardal graidd, yn bennaf i’r de-orllewin a’r gorllewin o’r ty yn un a luniwyd yn ardd gan Clough Williams-Ellis o 1908 ymlaen. Mae’r ffurf yn hynod bensaernïol, gyda gwrychoedd tal, cerfluniau, pyllau ffurfiol a llinellau syth sydd yn edrych tua golygfeydd pell, sef yr olygfa enwog o’r Cnicht i’r gogledd ddwyrain.

Datblygwyd ardal i’r de o’r ty, gan gynnwys cyn chwarel, mewn dull llai ffurfiol. Trowyd y chwarel ei hun yn nodwedd ddwr, ac uwchlaw iddi, mewn man sy'n edrych i lawr arni, ceir cofeb i'r tân ym 1951. Ar ben y bryn ceir ty'r gwylio a oedd yn anrheg priodas i’r Williams-Ellises ym 1915 gan gyd-swyddogion Clough yn y Gwarchodlu Cymreig. Mae’r coed a blannwyd yn y rhan yma yn goed collddail yn bennaf, gyda rhai llwyni.

Mae’r ardd a'r ardal goediog hon yn cynnwys llawer o nodweddion amlycaf Williams-Ellis, yn enwedig yr arddull theatrig, wedi’u paentio’n bennaf yn y lliw glas golau arbennig a ddefnyddiwyd ledled ystâd Williams-Ellis (Portmeirion). Ceir hefyd adeiladau o fewn yr ardd (orendy) a chysylltiedig â hi (gatws i’r de-ddwyrain) a thu hwnt iddi (cofeb ryfel ac adeiladau eraill yn Garreg), sy’n lledaenu arddull arbennig Williams-Ellis drwy’r ystâd ehangach < yn ôl at y map

© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl, Ymddiriedolaeth Archaeoloegol Gwynedd, 100017916 2005