05 Plas Tan y Bwlch

Cefndir hanesyddol

Mae’n debyg y codwyd y ty cyntaf ar y safle gan Robert Griffith oddeutu 1748, fel olynydd i dy arall ar safle arall gerllaw, o bosibl lle saif yr Oakeley Arms heddiw. Does dim amheuaeth y dewiswyd y safle newydd oherwydd yr olygfa wych dros Faentwrog a Dyffryn Ffestiniog. Y mae’r ty presennol yn cynnwys rhai rhannau o dy’r ddeunawfed ganrif, ond fe’i hailadeiladwyd, a’i helaethu, ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Yn gynharach, cyfeiriwyd at yr ystâd fel Bwlch Coed Dyffryn. O 1789 yr oedd ym mherchnogaeth y teulu Oakeley, yr oedd eu heiddo yn ffurfio’r ystâd fwyaf yn ardal yr astudiaeth ac a oedd hefyd yn berchen ar chwareli llechi ar fferm Rhiwbryfdir ym Mlaenau Ffestiniog. Adeiladwyd y ty presennol gan William Edward Oakeley, o elw’r chwareli, ac er gwaethaf y safle cyfyngedig, yr oedd yno adeiladau allanol helaeth gan gynnwys bloc ar wahân ar gyfer y gweision a phwll nofio dwr hallt, gyda dwr ar ei gyfer yn cael eu gludo ar y trên o Borthmadog. Mewn mannau eraill ar yr ystâd ceir porthdai, ty agweddi, adeiladau fferm, melin lifio, gefail, pantri helgig a thy golchi.

Bu i’r William Oakeley cyntaf, a ddaeth yn berchennog Tan y Bwlch drwy briodi’r aeres, Margaret Griffith, wario arian sylweddol ar wella’r ystâd, ac yn ogystal â hynny, draeniodd Ddyffryn Ffestiniog ac adeiladu argloddiau ar hyd yr Afon Dwyryd (gan dderbyn medal aur gan Gymdeithas y Celfyddydau am y gwaith ym 1797). Parhaodd ei etifeddion i wella’r ystâd hyd nes iddynt fynd yn brin o arian ar ddechrau’r ugeinfed ganrif, a pharhaodd y teulu fyw yno hyd 1962, pryd y gwerthwyd y ty a’r gerddi i ddyn busnes a oedd yn bwriadu ei ddatblygu fel clwb gwledig a phentref gwyliau, ond ni adeiladwyd ond 9 o’r 40 siale a gynlluniwyd cyn i’r eiddo gael ei werthu eto, ym 1968, i Barc Cenedlaethol Eryri. Fe’i rhedir bellach fel canolfan astudio.

Nodweddion hanesyddol allweddol yn y tirwedd

Gerddi a thy annedd o’r ddeunawfed ganrif

Ceir tirwedd helaeth sydd wedi'i ddylunio, a gallai rhannau, o leiaf, ddyddio o ddechrau’r ddeunawfed ganrif, gan gynnwys ardaloedd eang o goetir naturiol yn wreiddiol. I’r gorllewin, i'r de ac i'r de-ddwyrain o'r ty ceir parcdir helaeth neu hanner-parcdir gyda llawer o goed enghreifftiol a choedlannau, gan gynnwys ffug adeilad bychan, neu nodwedd i dynnu’r llygad ar dwmpath artiffisial, a chwt cychod ar yr afon. I’r gogledd a’r gogledd-orllewin ceir parc ceirw, coetir a llyn artiffisial, er y bu'n llyn naturiol yn wreiddiol, mae llawer o goed egsotig wedi’u hychwanegu i’r goedlan, ac fe’i croesir hefyd gan Reilffordd Ffestiniog (yr oedd gorsaf breifat ar gyfer y ty). Mae’r dyffryn bychan a’r nant sy’n llifo i lawr o’r llyn i groesi’r rhodfa ddwyreiniol wedi derbyn llawer o welliannau artiffisial. Ceir mwy o goetir ar ochr ddeheuol Dyffryn Ffestiniog ac yn weddol ddiweddar plannwyd coed conwydd i orchuddio’r parc ceirw.

Gall fod y parcdir ger yr Oakeley Arms yn dyddio o ddechrau’r ddeunawfed ganrif, os mai yma y safai’r ty yn y cyfnod hwnnw. Mae’r parcdir diweddarach yn debyg o ran ffurf a dechreuwyd gwneud gwelliannau i’r ardal uwchlaw’r ty a’r mynedfeydd o’r gogledd ddwyrain a’r gogledd (gynt) yn niwedd y ddeunawfed ganrif, yn y dull ‘Rhamantaidd’ a oedd yn ffasiynol yr adeg honno. Bu i ddatblygiadau yn yr ardal hon yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ddilyn yr un thema gan gydymffurfio'n gryf â syniadaeth diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg am yr hyn oedd yn ‘Ddarluniadwy’ ty.

Prif nodwedd yr ardd yw’r teras hir ar ochr dde-ddwyreiniol y ty, sy’n ymestyn ymhell y tu hwnt i’r ty tua’r gogledd-ddwyrain. Oddi tano ceir lawntiau serth a oedd ar un adeg yn cynnwys cynlluniau helaeth o welyau blodau, ond sydd bellach yn cynnwys dau bwll anffurfiol modern, grwpiau o brysgwydd ac y mae coed enghreifftiol yn ymdoddi i’r ardaloedd mwy coediog ar y cyrion. Mae’r ardd gegin, sydd bellach yn faes parcio, ym mhen de-orllewinol pellaf yr ardd.

Mae'r adeiladau ar yr ystâd wedi cadw cymeriad y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ychydig o newid a fu ar y Plas wrth ei droi'n ganolfan astudio, er bod feranda o haearn bwrw ar y llawr gwaelod wedi’i hamgáu a’i throi’n far. Mae’r porthdai, y rhodfeydd a’u hatodion – gatiau a ffensys – wedi cadw cymeriad y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Ymddengys bod y garreg ar gyfer yr adeiladau a’r ffyrdd cloddiog wedi dod o chwarel Oakeley ei hun yn Gelli Grin, ar ochr arall Afon Dwyryd (gweler hefyd adeiladau ystâd yr Oakeley yn ardal 29) < yn ôl at y map

© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl, Ymddiriedolaeth Archaeoloegol Gwynedd, 100017916 2005