04 Tan yr Allt

Cefndir hanesyddol

Ffermdy o’r ddeunawfed ganrif a drawsnewidiwyd gan William Alexander Madocks i fod y ty cyntaf o gyfnod y Rhaglywiaeth yng ngogledd-orllewin Cymru. Dewiswyd y safle yn bennaf oherwydd yr olygfa ac er mwyn gwneud lle i’r ty mwy, cloddiwyd llethrau’r bryn y tu ôl gan adael wyneb y graig yn y golwg. Ceir stablau ac adeiladau allanol ychydig i’r gorllewin o’r safle.

Yr oedd Madocks, a brynodd yr eiddo ym 1798, yn ddyngarwr ac yn ganolbwynt cylch o ddyngarwyr a ffigurau llenyddol ‘Rhamantaidd’. Ef oedd yn gyfrifol am adeiladu’r Cob ym Mhorthmadog a draenio’r Traeth Mawr yn ogystal ag adeiladu tref fodel Tremadog. Yr oedd cylch cyfeillion Madocks yn cynnwys Sheridan, Thomas Love Peacock a Shelley a bu i’r olaf o’r rhain rentu Tan yr Allt o 1812 i 1816, gan ysgrifennu Queen Mab tra’n byw yno. Seiliodd Peacock ei waith dychan Headlong Hall ar Tan yr Allt ac ar Madocks a’i gyfeillion.

Ar ôl Madocks, bu’r ty’n eiddo i’r teulu Greaves, perchnogion chwareli llechi ym Mlaenau Ffestiniog, a hyd yn ddiweddar bu’n ysgol Steiner.

Nodweddion hanesyddol allweddol yn y tirwedd

Parc coediog o ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, gardd addurniadol

Byddai’r coetir hynafol ar lethrau’r bryn y tu ôl i’r ty (bellach yn Ardal o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig) yn un o atyniadau’r safle i Madocks. Fe ychwanegodd ef goed yn y goedlan a'r ardd, a chan ei fod yn arbennig o hoff o goed ffawydd, fe greodd lecynnau o glai calchog i’w cynorthwyo i ffynnu. Bu iddo hefyd arbrofi ar symud coed mawr aeddfed. Mae llawer o’i goed ef wedi goroesi, ac yn enghreifftiau godidog erbyn hyn.

Mae’r ardd sydd ar lethr serth, yn anffurfiol o ran cymeriad, ac yn ymdoddi i ardal fechan o barcdir tua’r de. Mae’n cynnwys yn bennaf lawntiau a mannau a blannwyd gyda choed enghreifftiol, ger y ty ceir rhododendron a phrysgwydd eraill a cheir pwll bychan ffurfiol wrth droed y lawnt sydd ar oleddf o flaen y ty. Mae’r ardd hefyd yn cynnwys cofeb i Shelley.

Mae’r rhodfa ddwyreiniol hir yn cynnwys planiadau anffurfiol sydd wedi goroesi, gan gynnwys llawer o goed da ac mae’r nant fechan sy’n croesi yn cynnwys pyllau artiffisial a rhaeadrau sy’n creu golygfeydd a synau deniadol. Ceir porthdy ar derfyn y rhodfa hon, hefyd wedi’i adeiladu gan Madocks.

Yr oedd yr ardd gegin, a luniwyd gan Madocks, yn bwysig iddo. Mae’r waliau wedi goroesi mewn cyflwr da ac y mae tanc dwr mawr (gwag) yn y gornel ogledd orllewinol, a ddefnyddiwyd yn fwy diweddar ar gyfer nofio. Cludwyd pridd i fyny o’r Cob yn ystod ei adeiladu, i wella pridd tenau naturiol yr ardd.

Esgeuluswyd yr ardd ar ôl dyddiau Madocks, ond fe’i dygwyd yn ôl i ddefnydd a chynhyrchedd gan yr ysgol Steiner. Mae rhai planiadau wedi goroesi o'r cyfnod cyn yr esgeuluso, ac y maent yn dangos bod planhigion a ffrwythau addurniadol yn cael eu tyfu yn ogystal â llysiau, traddodiad sydd wedi parhau. Ymddengys bod gosodiad y llwybrau yn wreiddiol ac y mae seiliau fframiau oer wedi goroesi, ymddengys na fu erioed ardal eang o wydr < yn ôl at y map

© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl, Ymddiriedolaeth Archaeoloegol Gwynedd, 100017916 2005