33 Llidiart Yspytty

Cefndir hanesyddol

Coridor trafnidiaeth ‘gysylltiol’ yw hwn sy’n gorwedd rhwng y clogwyni serth uwchben Tremadog, y corsydd sydd wedi’u draenio yn Nhraeth Mawr ac anheddau Tremadog a Phenmorfa. Roedd y tir yn rhan o ystad Tremadog Madocks ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif. Tua’r un cyfnod fe ddraeniodd y Traeth ac adeiladu tref Tremadog yn ogystal â datblygu cyfleusterau trafnidiaeth a mwynol yr ardal. Adeiladwyd ffordd newydd ym 1807 i gysylltu Tremadog (mae’r enw Stryd Dulyn yn awgrymog iawn) â Chricieth a Phwllheli. Gobaith mawr Madocks oedd y byddai’r ffordd yn rhan o’r lôn bost rhwng Llundain a Phorth Dinllaen. Ym 1810 daeth yr hen ffordd rhwng Llidiart Yspytty a Chaernarfon dan berchnogaeth Ymddiriedolaeth Dyrpeg Sir Gaernarfon. Roedd y ddwy ffordd hyn yn cwrdd yn Llidiart Yspytty ac ym 1845 ail-adeiladwyd ffordd Caernarfon ar hyd y llwybr y mae'n dilyn hyd heddiw.

Tua’r un cyfnod, dechreuwyd datblygu’r gwaith o gloddio am haearnfaen. Mae’n ddigon posibl bod yna waith ar y gweill yn y mwynglawdd cyntaf ym 1754. Yn sicr, roedd y chwarel ar waith erbyn 1770: gan fod tollau harbwr Porthmadog yn cadarnhau bod 3,301 tunnell o haearnfaen wedi’i allforio rhwng mis Mawrth 1839 a mis Rhagfyr 1840, ac mae’n anorfod bod y rhan fwyaf ohono wedi cael ei echdynnu yn Llidiart Yspytty. Adeiladwyd ‘ffwrnesi mwyndoddi’ gerllaw’r brif geuffordd fwy na thebyg ym 1845. Rhwng 1848 a 1850, allforiwyd rhwng 10,000 a 15,000 tunnell sy’n awgrymu bod y gwaith dan ddaear yn anferth. Diddorol yw nodi serch hynny nad oes dim tipiau o unrhyw faint i’w gweld gerllaw’r mwynglawdd (er mae’n bosibl bod y gwastraff yn cael ei gludo i ffwrdd ar y ffordd fawr at ddefnydd arall.) Caeodd y mwynglawdd ym 1851.

Adeiladwyd y rheilffordd a oedd yn gwasanaethu’r mwynglawdd ym 1840-1841, er bod llwybrau’r trac wedi newid fwy nag unwaith yn ei hanes. Ail-aliniwyd y trac ym 1848 ac fe’i hadeiladwyd o’r newydd ym 1855-7 pan ymestynnwyd y trac er mwyn cael mynediad at chwarel lechi Gorseddau: o hynny ymlaen, roedd safle'r mwynglawdd yn gweithredu fel 'gorsaf' ac iard lechi ar gyfer tramffordd Gorseddau. Serch hynny, erbyn yr 1860au roedd chwarel Gorseddau hefyd wedi cau, ac fe addaswyd y rheilffordd drwy Llidiart Yspytty ym 1872-5 mewn ymdrech i geisio manteisio ar y cyfoeth mwynol tybiedig yng Nghwm Pennant. Fodd bynnag, ychydig iawn o ddefnydd a wnaed ohoni, ac roedd y lein wedi’i datgysylltu erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Nodweddion hanesyddol allweddol yn y tirwedd

Mwynglawdd haearnfaen, llwybrau rheilffordd a ffordd fawr

Gellir gweld olion prif geuffordd y mwynglawdd o hyd, gyda darn ohono dal ar agor, yn ogystal â safle'r odynau a adeiladwyd ym 1845 i'r de orllewin. Gellir hefyd gweld sawl ceuffordd arall sydd wedi’u cau, yn ogystal ag ardaloedd eraill o weithgarwch diwydiannol. Hefyd mae rhannau o reilffordd 1848, tramffordd Gorseddau 1855 a ffordd yr Ymddiriedolaeth Dyrpeg i’w gweld yn glir. Mae’r brif ffordd rhwng Caernarfon a Thremadog dal yn cael ei defnyddio heddiw. < yn ôl at y map

© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl, Ymddiriedolaeth Archaeoloegol Gwynedd, 100017916 2005