32 Penrhyndeudraeth

Cefndir hanesyddol

Ar ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg, plwyf Penrhyndeudraeth (yr oedd yr ardal hon yn rhan ohono) oedd y plwyf mwyaf cefnog o bell ffordd ym Meirionnydd (gyda gwerth trethiannol o dros £7 y mil o erwau, roedd ddwywaith gwerth ei 'wrthwynebydd' agosaf). Dim ond un o ddau blwyf oedd hwn oedd heb unrhyw weundir uchel (diwerth gan amlaf), ac roedd yn ffynhonnell o galchfaen a ddefnyddid ar gyfer gwaith atgyweirio Castell Harlech, fymryn yn is ar yr arfordir ddechrau'r bedwaredd ganrif ar ddeg. Saif y dref bresennol wrth wddf yr hen benrhyn, felly fe fyddai wedi bod yn lleoliad pwysig yn y gorffennol gan y byddai mynediad at y môr ar gael ar y ddwy ochr.

Fodd bynnag, disgrifiwyd Penrhyndeudraeth fodern ym 1862 fel ‘pentref dilewyrch o ychydig o dai wedi’u gwasgaru rhwng tomenni o faw a chregyn cocos’ ac fe’i sefydlwyd yn wreiddiol gan boblogaeth o bysgotwyr a ddaeth hefyd yn gysylltiedig â’r busnes cychod llechi a fodolai cyn dyfodiad y rheilffyrdd. Yn amlwg yr oedd cymuned sefydlog yma ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac y mae’r llysenw a roddwyd ar y pentref yn y cyfnod hwn ‘Cockletown’, yn dal i gael ei ddefnyddio. Bu i’r twrnai David Williams (Dewi Heli, 1799-1869), Aelod Seneddol Rhyddfrydol dros Sir Feirionnydd) ddod yn berchen ar safle’r pentref ym 1841 a dechreuodd ddraenio’r corsydd o ddifrif gan godi ffyrdd a thai, ym 1855. Er nad oedd wedi tyfu rhyw lawer erbyn 1862, pan gyflwynwyd gwasanaethau i deithwyr ar y rheilffyrdd ym 1865, datblygodd yn gynyddol i fod yn bentref noswyl i Ffestiniog.

Mae erthygl Fanny Edwards ‘Penrhyndeudraeth' yn y JMHRS 1 3 (1951), tudalennau 197-201, yn talu sylw i dystiolaeth am enwau llefydd yn ardal y pentref presennol.

Nodweddion hanesyddol allweddol yn y tirwedd

Anheddiad o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg

Mae pentref Penrhyndeudraeth yn gorweddian ar hyd y brif ffordd rhwng Porthmadog a Maentwrog, yn ogystal ag i’r cyfeiriad arall (i raddau llai) ar y ffordd rhwng Rhyd a Phont Briwat. Adeiladwyd y prif adeiladau masnachol (o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac erbyn hyn yr ugeinfed ganrif ar y cyrion) ar hyd y ffordd hon ac ar onglau sgwâr iddi. Ar y cyfan, mae’r stoc tai yn dyddio yn ôl i ganol a diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gyda’r rhan fwyaf ohonynt yn dai teras naill ai ar hyd y brif stryd neu’r strydoedd cefn, neu wedi’u gwasgaru hwnt ac yma ar lethrau’r bryn tua’r gogledd (lle mae’r lein Ffestiniog yn pasio ac yn fwy na thebyg, dyma sy’n gyfrifol am y twf i’r cyfeiriad hwn). Ychydig iawn o dystiolaeth (os o gwbl) sy’n bodoli am y gymuned bysgota a chasglu cocos flaenorol. Gwelir nifer o gapeli cymharol addurnedig yn y pentref, ac mae rhai ohonynt dal yn cael eu defnyddio hyd heddiw, tra bo rhai eraill wedi cael eu haddasu at ddibenion eraill.

Ychydig iawn o adeiladau eraill o bwys pensaernïol sydd yma ac er bod y pentref presennol yn greadigaeth fwriadol gan dirfeddiannwr o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg (ar ôl i’r Cob gael ei adeiladu ar droad y bedwaredd ganrif ar bymtheg a oedd yn golygu nad oedd y pentref bellach yn ddiwedd y daith ond yn hytrach yn lleoliad hygyrch) prin iawn yw’r nodweddion unigryw i ystâd, sydd o bosibl yn adlewyrchu agwedd ffwrdd-â-hi David Williams. Serch hynny, roedd yna elfen ddosbarth canol gref ymysg y trigolion. Caiff hyn ei adlewyrchu ym maint y tai a’r ffaith iddynt ddefnyddio deunyddiau sydd ddim ar gael yn lleol, megis brics.

Mae sawl ffermdy o’r cyfnod cyn dyfodiad y pentref dal ar eu traed, megis Cae Canol (SH 6078 3894), ond mae’r adeiladau eu hunain ar ffurf adeiladwaith y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Ymysg yr adeiladau sefydliadol mae ysbyty Bronygarth o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, y Wyrcws gynt (SH 6033 3866), a swyddfeydd Parc Cenedlaethol Eryri o'r ugeinfed ganrif (SH 6017 3853). Saif y ddau adeilad hyn bron gyferbyn â’i gilydd ar y ffordd fawr tuag at y Cob. < yn ôl at y map

© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl, Ymddiriedolaeth Archaeoloegol Gwynedd, 100017916 2005