|
31 Chwarel Minffordd
Cefndir hanesyddol
Chwarel gwenithfaen yw hon a agorwyd am y setiau yn yr 1870au, wedi i reilffordd Aberystwyth ac Arfordir Cymru agor. Erbyn hyn mae Tarmac Quarry Products (Gogledd Orllewin) Ltd yn gweithio’r chwarel ar raddfa fawr er mwyn cynhyrchu agreg.

Nodweddion hanesyddol allweddol yn y tirwedd
Chwarel, archaeoleg ddiwydiannol
Mae’r chwarel wedi parhau i dyfu ac o’r herwydd mae’r olygfa o Garth yn erbyn y gorwel wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig wrth edrych o gyfeiriad y Cob. Mae’r peiriant cywasgu haearn rhychiog yn nodwedd amlwg iawn, ond er nad oes arolwg archeolegol erioed wedi’i gynnal yma, mae’r gwaith wedi tyfu ac ni thybir bod yna lawer o bwys archeolegol diwydiannol ar y safle. < yn ôl at y map
|