|
30 Llethrau Brondanw
Cefndir hanesyddol
Ardal fechan yw hon ar lethrau’r penrhyn sy’n wynebu’r gogledd. Yn hanesyddol, dominyddwyd yr ardal gan y tai ym Mhlas Brondanw ac yn y Parc, lle ceir llawer o goetir hynafol (fwy na thebyg) a lle bu ychydig o fwyngloddio am lechi yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gwelir patrymau tir gwaelodol sy’n anodd gwneud synnwyr ohonynt, ond mae’n bosib eu bod yn deillio o gyfnod cynnar. Efallai bod y ffaith bod nifer o dai pwysig o’r cyfnod canoloesol diweddarach wedi crynhoi yn ardal Llanfrothen yn dynodi pwysigrwydd economaidd cynyddol yr ardal hon yn y unfed ganrif ar bymtheg a’r ail ganrif ar bymtheg (pan fyddai’r ardal ar yr arfordir) ac fe geir tystiolaeth bellach o hyn yn y tirwedd.

Nodweddion hanesyddol allweddol yn y tirwedd
coetiroedd, patrymau caeau, olion diwydiannol
Ardal weddol gyffredin yw hon wedi’i nodweddu gan gaeau bychain, coetir llydanddail a thystiolaeth o waith llechi ar raddfa fach sy’n amlwg o’r adeiladwaith adfeiliedig ac olion yr incleiniau. < yn ôl at y map
|
|