03 Rheilffordd Ffestiniog
Cefndir hanesyddol
Agorwyd rheilffordd gul lled 2 a weithid gan geffyl a disgyrchiant ym 1836 i gludo llechi o Flaenau Ffestiniog at y môr ym Mhorthmadog, a arweiniodd y ffordd, rhwng 1863 ac 1872 tuag at fabwysiadu tyniant locomotif, gwasanaethau i deithwyr ynghyd â threnau locomotif a wagenni cymalog. Daeth ei llewyrch i ben gyda dirywiad y diwydiant llechi, a chaewyd hi ym 1946. Fe’i hadfywiwyd pan fu i grwp o bobl frwdfrydig ennill rheolaeth ar y cwmni ym 1954 ac o hynny ymlaen fe’i hailadeiladwyd fesul rhan hyd nes cyrraedd y Blaenau ym 1982. Yr oedd hyn yn cynnwys adeiladu darn newydd o reilffordd rhwng Dduallt a Than y Grisiau gan fod yr hen lwybr wedi’i foddi gan y cynllun storfa bwmp.

Bu i Reilffordd Ffestiniog yn y cyfnod 1863 i 1872 nid yn unig ddangos sut y gallai peirianneg sifil y dramffordd a dynnid gan geffyl, gael ei gwthio ymlaen i'r oes stêm - a thrwy hynny darparodd ddull rhad ac effeithiol o drafnidiaeth ar gyfer yr ymerodraeth Brydeinig, UDA a thu hwnt - ond profodd hefyd werth ymarferol trenau locomotif a wagenni cymalog sydd bellach i’w gweld ledled byd. Bu i lawer o’i seilwaith o oes Fictoria oroesi nid yn unig y cyfnod y bu ar gau rhwng 1946 ac 1955 ond hefyd foderneiddio gorawyddus y rheilffordd yn yr 1960au a’r 1970au gan y rheolwyr presennol. Mae’r rheilffordd bellach yn cynnal Grwp Treftadaeth sydd wedi ymroi i ddiogelu neu ailadeiladu nodweddion peirianneg sifil draddodiadol y rheilffordd, megis signalau semaffor yn ogystal â wagenni.
Nodweddion hanesyddol allweddol yn y tirwedd
Lein fach gul a seilwaith o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg
Mae peirianneg sifil y rheilffordd yn adlewyrchu ei dechreuad fel rheilffordd ‘hybrid’, sef un a safai rhwng y rheilffordd gyntefig ar gyfer diwydiant yn unig, a’r rheilffordd gyhoeddus fodern. Mae ei llwybr troellog yn nodweddiadol o dramffordd Gymreig o ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a gwelir y defnydd o argloddiau mawr o garreg mewn rheilffyrdd eraill o’r un cyfnod. Dylanwadwyd ar adeiladu’r llwybr troellog yn Dduallt gan arferion rheilffyrdd megis rheilffordd Darjeeling Himalaya yn yr India, sydd bellach yn Safle Treftadaeth Byd, ac a oedd ei hun wedi’i hysbrydoli’n uniongyrchol gan arferion Ffestiniog. Mae’r rhan o’r rheilffordd rhwng SH 6789 4220 ac SH 6824 4496 yn adeiladwaith cwbl newydd o ddiwedd yr ugeinfed ganrif.
Mae adeiladau’r orsaf a seilwaith arall o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg wedi goroesi ym Mhorthmadog (SH 5712 3840 - dangosir yr orsaf yn y ffotograff), Minffordd (SH 6004 3856), Penrhyndeudraeth (SH 6129 3951) a Than y Bwlch (SH 6499 4156). Mewn mannau eraill codwyd adeiladau modern yn lle’r rhai gwreiddiol. Mae’r gweithfeydd locomotif helaeth o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn Boston Lodge ar ben dwyreiniol y Cob yn parhau i gael eu defnyddio, ac wedi’u rhestru bron yn gyfan gwbl.
Bu effaith y rheilffordd ar ddatblygiad tirwedd hanesyddol ardal Glaslyn-Ffestiniog yn sylweddol iawn. Mae’r rhan o Dan y Grisiau i Riwbryfdir (SH 6824 4496 6902 4550) yn enghraifft brin sydd wedi goroesi o gymuned ddiwydiannol gynnar a adeiladwyd o gwmpas rheilffordd < yn ôl at y map
|
|