29 Llawr dyffryn Afon Dwyryd

Cefndir hanesyddol

Mae’r ardal hon o gymeriad hanesyddol yn cwmpasu llawr dyffryn Dwyryd, sy’n cynnwys y tir gorlanw isel (hyd at Faentwrog) a’r tir uchel y tu hwnt i lanw’r môr hyd at Ryd y Sarn, lle mae ochrau’r dyffryn yn closio at ei gilydd (ardal 28 i’r gogledd). Draeniwyd y dyffryn ei hun gan William Oakeley (Plas Tan y Bwlch - lle ceir golygfeydd eang i fyny ac i lawr y dyffryn) ac fe dderbyniodd fedal aur gan Gymdeithas y Celfyddydau ym 1797 am ei waith.

Mae llawr y dyffryn yn wastad ar wahân i rwydwaith o gloddiau llifogydd sy’n dilyn llwybr troellog yr afon. Ceir hefyd tair pont yn croesi'r afon sef Pont Dol-y-moch sy’n heneb gofrestredig (i fyny ym mhen pellaf y dyffryn o dan Rhyd y Sarn lle bu rhyd yn y gorffennol), y bont fodern sy’n nes i lawr sy’n cludo traffig yr A487, a’r bont rheilffordd a adeiladwyd yn yr 1860au (sy’n rhan o reilffordd Arfordir y Cambrian) sydd gerllaw aber yr afon. Nodwedd amlwg arall o ran gwaelod yr afon yw’r cei llechi (sydd wedi’i gofrestru), Cei Newydd. Mae yna gysylltiad gyda’r datblygiadau blaenorol yn chwareli Blaenau Ffestiniog (sy’n cael cryn sylw gan Lewis yn ei lyfr ‘Sails on the Dwyryd’).

Cyfeirir hefyd at yr ardal ym mhedwaredd gainc y Mabinogi, Math fab Mathonwy. Ar ôl i Pryderi (arweinydd byddin y de) groesi Traeth Mawr wrth ffoi tua’r de rhag byddin Math, cafodd ei ladd gan Gwydion mewn brwydr yn Felinrhyd wrth iddo groesi’r afon er mwyn dilyn yr hen ffordd Rufeinig fwy na thebyg. Ceir sawl lle o’r enw Felinrhyd ar hyd glan ddeheuol yr afon (coedwig, fferm a phont). Mae’n bosib felly mai yn yr ardal hon oedd y llwybr Rhufeinig ar draws yr afon (ac efallai bod yma lanfa neu harbwr i alluogi cychod o'r môr gael mynediad at Domen y Mur): byddai hyn yn gwneud synnwyr o safbwynt topograffeg, gan mai’r dyffryn byr (Ceunant Llenyrch) sy’n codi o’r pwynt hwn yw’r unig wir fynedfa i’r tir uchaf lle saif y gaer.

Nodweddion hanesyddol allweddol yn y tirwedd

Llawr y dyffryn, dolydd

Llawr dyffryn gwastad, wedi’i ddraenio’n helaeth, gyda nifer o anheddau pwysig ar y llechwedd a gerllaw. Mae’r rhain yn cynnwys Gwesty’r Oakley Arms, sef ty tafarn o ddechrau’r 1bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae’n ddigon posibl mai hwn oedd safle gwreiddiol Plas Tan y Bwlch a Phlas Dôl y Moch sydd ym mhellach i' r dwyrain (y ddau wedi’u rhestru). Mae’r trefniant unigryw o dri chowlas paralel a adeiladwyd i mewn i uned ganolog betryal wedi’i ddiogelu yn yr Oakley Arms ac fe welir yr un peth yn Ogwen Bank Richard Pennant. Defnyddir coed fel ffiniau ac fel cysgod rhag y gwynt, yn enwedig ar y rhannau uchaf o gwmpas Plas Dôl y Moch. Ceir sawl cei ar y tir gorlanw'r môr o dan Faentwrog, megis y Bwthyn Laundry yn SH 6442 4007, yn ogystal â sawl nodwedd glannau afon sydd erbyn hyn gryn bellter o gwrs yr afon.

Ar y ffordd fawr o dan y prif dy, ceir nifer o adeiladau gyda chysylltiad ag ystâd Plas Tan y Bwlch. Y canolbwynt yw fferm y plas sy’n cynnwys nifer o adeiladau a sied enfawr a ddefnyddid i gylchgerdded ceffylau i gynhyrchu ynni. Adeiladwyd yr adeiladau hyn gan ystâd Oakeley, gan ddefnyddio slabiau Gelli Grin yn bennaf, ac roeddent yn rhan o dirwedd yr ystâd a gynlluniwyd yn fwriadol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. < yn ôl at y map

© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl, Ymddiriedolaeth Archaeoloegol Gwynedd, 100017916 2005