28 Llethrau coediog isaf, mynyddoedd y Moelwyn

Cefndir hanesyddol

Cyfeirir yma at lethrau isaf Moelwyn Bach sy’n ymestyn i lawr i Afon Dwyryd. Bu’r ardaloedd hyn yn rhan o ystadau Oakeley a'r Dduallt yn y ddeunawfed a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ac mae defnydd masnachol wedi'i wneud o'r pren ers o leiaf y ddeunawfed ganrif (gweler y cyflwyniad, adran 8.2). Yn ddiweddar, bu’r Ymddiriedolaeth yn gwneud gwaith ar ran y Comisiwn Coedwigaeth ar Cymerau Isaf, sef llecyn o goetir yn rhan ddwyreiniol yr ardal, sy’n Ardal o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn Warchodfa Natur Leol dan berchnogaeth yr Ymddiriedolaeth Coetiroedd. Mae’r adroddiad hwn yn yr SMR (adroddiad rhif 426) ac fe ddyfynnir ohono’n helaeth yn y fan hon gan ei fod yn crisialu llawer o hanes a chymeriad yr ardal hon.


Ychydig iawn o ddogfennau ystâd a mapiau sydd wedi goroesi mewn perthynas â Cymerau Isaf (un o’r llecynnau pwysicaf o goedlannau y tu ôl i’r dyffryn), er bod un o’r rhain, dyddiedig 1802, yn dangos cynlluniau ffordd arfaethedig o chwareli’r Arglwydd Newborough ym Mlaenau Ffestiniog. Mae’n defnyddio confensiwn a oedd eisoes yn un hynafol, lle y dangosir adeiladau a nodweddion eraill fel golygfa gyffredinol o’r awyr, yn hytrach nag ar ffurf cynllun, a dengys ffermdy bychan yn Cymerau Isaf ond ni ddarperir unrhyw wybodaeth am y coetiroedd ar wahân i ddangos ardal goediog yn union gerllaw. Dengys map o 1813 y bwthyn i’r de o Cymerau isaf, r’Allt, heb nodi’r enw, ond ni roddir unrhyw fanylion am Cymerau Isaf ei hun. Mae’r trydydd, sef ‘arolwg llygadol’ o 1827 ar gyfer rhywbeth a allai fod yn ffordd neu’n rheilffordd, yr un mor brin ei wybodaeth.

Y mathau o ddogfennau sydd wedi goroesi yw’r rheiny sy’n cofnodi trafodion Pengwern gydag ystadau eraill. Gwelir y cyfeiriad cyntaf at Cymerau Isaf ym 1739, pan oedd dan berchnogaeth ystâd Pengwern. Saif Pengwern, ty mawreddog sy’n dyddio’n ôl i’r unfed ganrif ar bymtheg, brin 500m i’r gogledd ddwyrain o ffermdy Cymerau Isaf. Fe’i hadeiladwyd gan deulu o bwys yn lleol, a fabwysiadodd y cyfenw Lewis yn y ddeunawfed ganrif, priododd Anne Lewis (Pengwern) Owen Wynne (Llwyn, Sir Ddinbych), a bu’r adeilad yn eu meddiant tan i’r Parch. Dr Maurise Wynne farw ym 1835. Peidiodd â bod yn gartref i’r teulu oddeutu 1800 ac fe rannwyd yr eiddo yn ddarnau. Pery Pengwern a Cymerau Isaf ym meddiant disgynnydd cytras tan 1919 pan gafodd yr holl diroedd eu gwerthu. Mae’n debyg bod teulu Newborough wedi prynu rhan o’r ystâd, gan gynnwys Cymerau Isaf, ac fe werthon nhw'r tir unwaith eto ym 1937.

Ceir cofnod o ddaliad cyfagos, Cymerau Uchaf, ym 1739 ac unwaith eto ar y map arolwg ordnans 2” 1818, er bod arolwg ordnans 1” (1839-1841) yn nodi enw’r ffarm fel ‘Cymerau’ yn unig, yn yr un modd â rhestr y degwm 1843. Cymerau Isaf yw’r enw ar y fferm yn argraffiad cyntaf map arolwg ordnans 6”.

Serch hynny, er gwaethaf y prinder gwybodaeth cymharol sy’n cyfeirio’n benodol at Cymerau Isaf a’r rheolaeth amaethyddol gyffredinol o’r daliad, mae mwy o wybodaeth gyffredinol ar glawr sy’n cyfeirio at goetiroedd Cymerau a’r ardaloedd sydd union gerllaw.

Nodweddion hanesyddol allweddol yn y tirwedd

Llethrau coediog

Mae llethrau serth y dyffryn wedi’u gorchuddio bron yn gyfan gwbl gyda choetir derw digoes llydanddail. Mae llawer ohono'n Ardal o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig lle ceir rhai o'r coetiroedd hynafol a lled-naturiol pwysicaf yng Ngogledd Cymru. Mae’r ardal yn cynnwys yr annedd pwysig o’r cyfnod canoloesol diweddarach, sef y Dduallt (adeilad rhestredig), a dyma ganolbwynt ystad y Dduallt. Mae’n debyg bod y llethrau serth wedi golygu nad oes olion creiriol blaenorol yn y coetir, sef prif nodwedd yr ardal hon, er efallai bod lle i wneud gwaith pellach. < yn ôl at y map

© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl, Ymddiriedolaeth Archaeoloegol Gwynedd, 100017916 2005