27 Penrhyn-Garth

Cefndir hanesyddol

Penrhyn oedd hwn nes i’r Traeth Mawr gael ei ddraenio ym 1813. Roedd mewn safle da ar gyfer masnachu (yn agored i'r môr gyda safleoedd ar gyfer harbyrau ar y naill ochr a'r llall), ac fe gâi ei ddefnyddio'n bennaf ar gyfer amaethyddiaeth. Ar ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg, plwyf Penrhyndeudraeth (yr oedd yr ardal hon yn rhan ohono) oedd y plwyf mwyaf cefnog o bell ffordd ym Meirionnydd (gyda gwerth trethiannol o dros £7 y mil o erwau, roedd ddwywaith gwerth y plwyf agosaf ato o ran cyfoeth). Dim ond un o ddau blwyf oedd hwn lle na cheid gweundir uchel (tir diwerth gan amlaf), ac roedd yn ffynhonnell o galchfaen a ddefnyddid ar gyfer gwaith atgyweirio Castell Harlech, fymryn yn is i lawr ar hyd yr arfordir, ddechrau'r bedwaredd ganrif ar ddeg.


Mae’r gaer yn Aber Ia (safle a gysylltid gynt â thywysogion Cymru) a’i phwysigrwydd ar geg dwy foryd o bwys efallai’n awgrym o bwysigrwydd economaidd a strategol yr ardal hon yn ystod y cyfnod.

David Williams oedd perchennog llawer o’r tir hwn yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ef a adeiladodd adeilad neo-farwnaidd Castell Deudraeth (SH 5923 3770) yma yn gartref iddo’i hun (fe’i hail-agorwyd fel gwesty’n ddiweddar ar ôl cael ei esgeuluso ers blynyddoedd lawer). Ef hefyd a ddatblygodd y ffermydd. Roedd y ty amlwg Plas yn Penrhyn (SH 5901 3779) ar ben draw’r Penrhyn ei hun yn gartref i Samuel Holland ac yn ddiweddarach i Bertrand Russell.

Arhosodd Gerallt Gymro yng Nghastell Deudraeth ar ei daith ym 1188, rhwng croesi’r Traeth Bach a’r Traeth Mawr.

Nodweddion hanesyddol allweddol yn y tirwedd

Tirwedd amaethyddol o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Heddiw, ardal o dai annedd a ffermydd o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yw'r penrhyn gan mwyaf. Mae’r rhan honno o’r penrhyn sy’n wynebu’r môr yn cynnwys waliau mawr o gwmpas y caeau mawr a’r rheini wedi’u gosod ar batrwm da. Maen nhw’n amlwg yn adlewyrchu cyfnod o wella’r ystad yn y ddeunawfed a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Fodd bynnag, yn nes at dref Penrhyndeudraeth, mae’r caeau’n llai o faint ac yn fwy anghyson. Mae’r rhain wedi’u gosod mewn pantiau bychain ac ar frig cefnau o dir. Mae'r ffermydd yma i bob golwg yn perthyn i'r cyfnod cyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan mwyaf, neu o leiaf, nid ydynt wedi'u gwella gan yr ystâd, ac nid oes fawr o raen arnynt. Mae’n ddiddorol nodi mai gwartheg yn bennaf sy’n pori yn y caeau llai hyn. Ceir ardaloedd o goetir, tuag at ben draw’r penrhyn ac yn is na Phenrhyndeudraeth.

Mae Castell Deudraeth ei hun wedi cael ei adnewyddu’n ddiweddar a’i ailagor fel gwesty-bwyty. Gwelir rhuban o ddatblygu ar hyd y ffyrdd ac adeiladau sy’n gysylltiedig â’r rheilffordd sy’n croesi’r ardal. Hefyd, mae rhywfaint o aneddiadau sybwrbaidd modern yn gorlifo o Benrhyndeudraeth. Ychydig o arwydd sydd yn yr ardal heddiw iddi fod yn benrhyn o bwys yn y gorffennol. < yn ôl at y map

© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl, Ymddiriedolaeth Archaeoloegol Gwynedd, 100017916 2005