|
26 Llethrau canolig cadwyn y Moelwyn
Cefndir hanesyddol
Mae llethrau canolig y Moelwyn, a’r rheini wedi’u hamgáu’n rhannol, yn cynnwys ardal anferth ac amrywiol. Mae’r adnoddau wedi bod yn cael eu defnyddio ers y cyfnod canol-oesol hyd at yr ugeinfed ganrif ar gyfer amaethyddiaeth (cyfyngedig), pren, yn ogystal â mwynau eraill, ac mae’r tir hefyd yn rhannol goediog.

Nodweddion hanesyddol allweddol yn y tirwedd
Llethrau canolig, amaethyddiaeth, diwydiant, fforest
Un o brif nodweddion yr ardal hon yw pocedi o goetir, rhywfaint o fforestydd o’r ugeinfed ganrif a thir agored, rhannau ohono'n gyforiog o redyn. O ran ffermio, porfa wael a llwm sydd yma gyda defaid yn pori ar y tir, ac mae’r ffermdai fel arfer yn adeiladau stwc isel o gerrig, a’r rheini’n aml wedi’u codi mewn pantiau naturiol i’w gwarchod. Ar y cyfan, nid yw’r waliau cerrig wedi cael gofal mawr, ac awyrgylch o oroesi yn hytrach na ffynnu sydd yma'n gyffredinol.
Mae pobl wedi bod yn tynnu plwm a mwynau eraill o’r tir ers y cyfnod canol-oesol os nad yn gynt ac mae yma olion sylweddol ym Mhant y Wrach (SH617402), Bwlch y Plwm (SH627415) ac yn lle Catherine and Jane Consols (SH633411). Mae llawer o’r fforest yn gymharol ddiweddar, a chryn dipyn ohono’n cael ei reoli’n fasnachol. Mae ardal sydd â'i chanol yn SH640420 ym mherchnogaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac yn cael ei rheoli ganddi.
Mae’r ardal yn cynnwys un anheddiad bach â chanol iddo, sef y Rhyd, lle ceir adeiladau sy’n dangos adeiladwaith a berthyn i’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. < yn ôl at y map
|
|