25 Coed Llyn y Garnedd

Cefndir hanesyddol

Yn bennaf, ardal o goedwig o'r ugeinfed ganrif yw hon, yn cynnwys rhywfaint o goetir hynafol a lled-naturiol ac mae'n rhannol orchuddio caeau blaenorol a rhywfaint o archaeoleg greiriol (cylch cytiau ac anheddiad cwt hir).

Nid oes dim ymchwil hanesyddol wedi’i wneud ar y coetir arbennig hwn, ond mae’n ambell ffaith gyffredinol yn dod i’r fei. Yn y ddeunawfed ganrif, daeth torri coed yn rhan bwysig o economi’r ardal o gwmpas Ffestiniog ac er bod y ffynonellau dogfennol yn ymwneud llawer mwy gan amlaf â gwerthu a chludo coed yn hytrach nag â rheoli’r coetiroedd eu hunain, mae digon o dystiolaeth wedi goroesi i roi rhyw arwydd o ystod y masnachu a’r ffynonellau a ddefnyddiwyd.

Yr oedd pren – pren caled, yn enwedig derw – yn cael ei allforio o lethrau coediog Ffestiniog a Maentwrog. Er i’r masnachu ddechrau’n gynt na hyn o bosibl, ceir y cofnod cyntaf ym 1739, a bod hwnnw’n ymwneud ag ystad Pengwern (gweler ardal 28), pan nodwyd bod coed gwerth £400 i’w cwympo. Mae Syr Richard Colt Hoare, ym 1801, yn disgrifio sut yr aeth o Dan y Bwlch i Gwmorthin drwy Gymerau (gweler y disgrifiad ym mharagraff 8.2.2).

Erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif, yr oedd llawer o goed eisoes wedi cael ei cwympo yn Nyffryn Ffestiniog Ym 1763, dywedwyd fel a ganlyn am sir Feirionnydd 'this county has been much drained of her timber'. Erbyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yr oedd cynifer â 6,400 o goed y flwyddyn yn cael eu cynnig ar werth. Arwyddion eraill sy’n nodi pwysigrwydd y farchnad goed yw’r unigolion a oedd yn amlwg yn gweithredu fel gwerthwyr coed. Pan fu adfywiad yn y gwaith adeiladu llongau yn rhan ogleddol Bae Ceredigion ddiwedd y ddeunawfed ganrif, yr oedd angen hyd yn oed mwy o bren a gynhyrchwyd yn lleol. A dyna sut y bu tan yr 1820au, pan ddechreuodd adeiladwyr llongau Porthmadog ddefnyddio coed y Mawddach yn eu lle.

Nodweddion hanesyddol allweddol yn y tirwedd

Coetir, coedwigoedd, archaeoleg greiriol

Mae’r ardal a orchuddir gan goedwig neu goetir yn yr ardal rhwng y Moelwyn Mawr ac Afon Dwyryd yn anferth ac yn amrywiol. Conwydd sy'n deillio o'r ugeinfed ganrif sydd yn bennaf yn yr ardaloedd uwch ar yr ucheldir (ardal ogleddol yr ardal hon) tra bo’r coetir hynafol a lled-naturiol go iawn (peth ohono'n Ardal o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig) yn is i lawr ac yn nes at Afon Dwyryd. Rhan o ystâd Plas Tan y Bwlch oedd llawer o'r ardal hon, ac felly, mae ganddi nifer fawr o goed sbesimen ac egsotig hefyd.

Yn y coetir hyn, ceir olion yma a thraw o greiriau cytiau crwn, cytiau hir a bythynnod diweddarach, ynghyd â waliau cerrig o gwmpas caeau a allai fod yn gymharol hynafol. Mae posibilrwydd cryf bod llawer o archaeoleg ganoloesol yn dal i fod o dan y goedwig, yn enwedig am fod cymaint o'r enwau llefydd yn cynnwys y gair 'hafod'. Ymhlith y rhain, ceir Hafod y Mynydd yn SH 6362 4092; Hafod Boeth yn SH 6390 4130; Hafotty yn SH 61312 4325 a Hafod Uchaf yn SH 6390 4335. Mae lle i gynnal rhagor o arolygon, tebyg i’r rheini a wnaed gan yr Ymddiriedolaeth mewn coetiroedd eraill yn yr ardal hon, megis Hafod Garegog (ardal 15) a Chymerau Isaf (rhan o ardal 28). < yn ôl at y map

© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl, Ymddiriedolaeth Archaeoloegol Gwynedd, 100017916 2005