24 Cwm Bowydd-Gelli

Cefndir hanesyddol

Roedd yr ardal hon yn arfer bod yn rhan o ffermydd Cwm Bowydd a Maenofferen, ac mae’n gorwedd yn union i’r de o dref Blaenau Ffestiniog. Roedd fferm Cwm Bowydd yn rhan o ystâd Newborough, a ffermdy’r Gelli’n rhan o ystad Peniarth. Fe’i prynwyd gan yr ystad ym 1800 gan William Turner, rheolwr chwarel lechi o Ardal y Llynnoedd.


Nodweddion hanesyddol allweddol yn y tirwedd

Porfeydd wedi'u trin, llethrau heb eu hamgáu, coetir

Roedd y llethrau o dan y blaenau’n rhy serth i godi adeiladau arnynt, felly roedd ffin ddeheuol tref Blaenau Ffestiniog wedi’i diffinio'n naturiol wrth iddi ehangu yn yr 1860au – 80au. Mae’r ardal i raddau helaeth yn dal i fod heb ei datblygu, er bod ychydig o ddatblygu tai wedi ymestyn i lawr y llethr.

Ceir dau ffermdy o’r cyfnod canoloesol diweddarach a’r rhain sydd o’r diddordeb hanesyddol pennaf yma. Codwyd Cwm Bowydd yn niwedd yr ail ganrif ar bymtheg a’i hymestyn yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg (SH 6995 4528), a’r Gelli (SH 7054 4549), sydd mewn ardal o borfa wedi’i thrin y llifa Afon Bowydd drwyddi. Mae’r ardal mewn hafn naturiol o dir o dan dref Blaenau Ffestiniog ac mae yno dystiolaeth o anheddiad cynhanes. Ceir coetir heb ei reoli ar rai o’r llethrau serthaf. < yn ôl at y map

© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl, Ymddiriedolaeth Archaeoloegol Gwynedd, 100017916 2005