|
23 Prenteg
Cefndir hanesyddol
Pentref bychan, sy’n perthyn gan fwyaf i’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae’n bosibl mai'r rheswm dros ei fodolaeth yw ei leoliad wrth odre'r ffordd o Gwmystradllyn, ac efallai ei fod yn lanfa gynnar ar Draeth Mawr. Mae sawl ty wedi’i ychwanegu at y stoc dai tua diwedd yr ugeinfed ganrif.

Nodweddion hanesyddol allweddol yn y tirwedd
Pentref o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Pentref bychan ar ymyl lle'r oedd aber afon Glaslyn gynt. Mae’n cynnwys capel a thafarn, Gwesty’r Glaslyn, ar yr hen Draeth, a thai o gwmpas y ffordd i Gwmystradllyn. Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg y codwyd y rhan fwyaf o’r tai annedd, gyda rhai wedi’u hychwanegu’n ddiweddarach, ond nid oes dim byd arbennig yn eu cylch. < yn ôl at y map
|
|