22 Parc

Cefndir hanesyddol

Mae gan y safle hynod ddiddorol hwn grwp o bedwar o dai, ynghyd â dwy ysgubor fawr ac adeiladau cysylltiedig. Mae’r ty cyntaf, a godwyd, mae'n debyg, yng nghanol yr unfed ganrif ar bymtheg, wedi'i ddymchwel, ond mae'r ardd gaeedig fechan gyferbyn â'r safle, sydd o bosibl o'r un cyfnod, yn dal i fod yno. Mae’r ail a’r trydydd ty o bosibl yn dod o’r un cyfnod fwy neu lai, sef diwedd yr unfed ganrif a’r bymtheg neu ddechrau’r ail ar bymtheg. Mae un o’r rhain erbyn hyn yn adfail ond mae’r llall wedi’i adfer. 1671 yw'r dyddiad ar y pedwerydd ty ond mae’n debygol iddo gael ei godi cyn hynny. Mae’n wynebu’r tri arall ac mewn cyflwr da. Mae gatws o'r unfed ganrif ar bymtheg i'w weld yno hefyd. Codwyd y tai gan deulu’r Anwyliaid ac fe gadwyd yr ystad yn y teulu nes iddi gael ei gwerthu yn y ddeunawfed ganrif. Fe’i prynwyd yn y pen draw gan Clough Williams-Ellis, a droes gwt weindio ar inclein chwarel yn y parc yn dy gardd. Fe droes y grisiau yn y trydydd adfail i wynebu'r ffordd arall, er mwyn iddynt arwain i ran o’r adeilad sy'n dal i fodoli, ond ni newidiodd fawr o ddim byd arall.

Yn ogystal â theulu'r Anwyliaid, yn enwedig William Lewis Anwyl a oedd yn ddyn diwylliedig ac addysgedig, mae cysylltiadau hefyd â Moses Kellow, y peiriannydd trydanol (gweler hefyd Croesor, ardal 11).

Nodweddion hanesyddol allweddol yn y tirwedd

Tai unedol ôl-ganol-oesol; gerddi cynnar

Mae’r tai, sydd â simneiau carreg tal yn eu nodweddu, yn amgylchynu cwrt ar ben uchaf llethr serth y cwm, gyda dwy ysgubor fawr a thai allan eraill wrth ymyl, a thrydedd ysgubor, Beudy Newydd, dyddiedig 1666, ar ymyl de-orllewin y parc. Mae’r gatws fymryn tua’r gogledd-ddwyrain. Mae’r prif grwp o adeiladau yn agos at ganol y parc, ardal sydd fwy neu lai'n betryal ac fe’i codwyd gan mwyaf ar gefn o dir rhwng dwy nant (gweler y ffotograff). Mae’n cynnwys olion tri chwt hir sydd, mae’n debyg, yn perthyn i’r cyfnod canoloesol, ac fe awgrymwyd mai crug crwn yw’r twmpath sydd i’w weld i’r de-orllewin o’r tai. Ond mae’n fwy tebygol mai nodwedd a godwyd yn fwriadol mewn gardd yw hwn.

Mae yma ardd fechan, sydd wedi’i chreu ar ffurf terasau serth dros frig y llethr. Perthyn i'r ty cynharaf yr oedd hon mae’n debyg. Mae gweddill yr ardd erbyn hyn wedi’i hesgeuluso. Fodd bynnag, maent yn dal i fod yn hynod o ddiddorol, gan fod yno dri theras gyda waliau cerrig anferth yn eu cynnal Mae’r rhain wedi’u codi i’r de o’r hen rodfa ac fe welir mwy o derasau pridd i'r gogledd ohoni. Mae’n debygol iawn bod y rhain yn perthyn i’r un cyfnod â’r tai diweddarach ac mae’n bosibl eu bod yn ymgais ar ran William Lewis Anwyl i greu rhywbeth tebyg i erddi'r dadeni Eidalaidd y gwyddai amdanynt drwy gyfrwng ei gysylltiadau a'i ddarllen. Hefyd, ceir safle’r ardd gegin fechan sgwâr sy'n perthyn i gyfnod diweddarach. Mae hwnnw'n union i'r de-orllewin o'r tai.

Mae cywydd a ganwyd adeg marw William Lewis Anwyl ym 1642, gan y bardd Huw Machno, yn sôn am y gerddi, y perllannau, y parciau a’r ‘tyrrau teg’. Hyd yn oed a bwrw bod y bardd yn gor-ddweud, mae’n amlwg bod tirwedd nodedig wedi'i gynllunio yno ar y pryd, er ei fod ar raddfa fechan.

Mae’r ardal hefyd yn cynnwys rhan o lwybr tramffordd anstatudol Croesor. Yn ogystal â gwrthglawdd uchel o gerrig oedd yn cludo rheilffordd wastad, mae hefyd yn cynnwys inclein y Parc uchaf, a rhan uchaf inclein y Parc isaf, rheilffordd o ddau blân wedi’u gwrthbwyso a oedd yn cludo’r dramffordd i lawr at lefel Aberglaslyn. Er iddo gael ei godi c. 1863 ar ffurf cwt weindio ‘drwodd’ cyffredinol, ailgodwyd y cwt weindio uchaf gan Clough Williams Ellis a’i droi’n dy gwledda i Fonesig Aberconwy yn yr un dull â chwt weindio’r Marchogion ar Reilffordd Chwarel y Penrhyn 1798-1801.

Mae’r ardal hefyd yn cynnwys gweddillion anghyffredin o gyflawn o chwarel slabiau’r Parc (SH 626-436-), a reolid gan Moses Kellow. Mae’n hyn na’r chwarel hon (gyda thramffordd a thomenni drosti) ond mae'n bosibl ei bod yn defnyddio’r llwybr safonol ag wyneb caled sy’n dringo’n gyson o’r hen arfordir, drwy Faesgwm, hyd at ymyl gogledd-ddwyrain y parc, lle mae’n diflannu. < yn ôl at y map

© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl, Ymddiriedolaeth Archaeoloegol Gwynedd, 100017916 2005