20 Tremadog

Cefndir hanesyddol

Mae Tremadog yn enghraifft neilltuol o gymuned drefol wedi’i chynllunio. Fe’i crëwyd gan William Alexander Madocks ar dir a adenillwyd o’r Traeth Mawr pan godwyd yr arglawdd cyntaf, ym 1800. Fe’i dyluniwyd i fod yn uned gyflawn, gyda thair prif stryd yn arwain at sgwâr canolog ac oddi wrtho (gweler y ffotograff), sefydlodd batrwm o bensaernïaeth sy’n adlewyrchu arddull y rhaglywiaeth yn yr ardal a barhaodd ymhell i ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ymysg y nodweddion enwog sydd yno y mae’r ffasâd clasurol cyntaf ar gapel Cymreig. Mae hwn yn seiliedig ar gynllun Inigo Jones ar gyfer capel Covent Garden yn Llundain, a’r eglwys gyntaf yn arddull yr adfywiad Gothig yng Nghymru.

Erbyn 1805, roedd anheddiad yma a elwid i ddechrau yn Bentre Gwaelod, a chodwyd Sgwâr y Farchnad yn y canol rhwng 1806 ac 1808. Agorwyd Capel Peniel ym 1811. Ychwanegwyd tai annedd eraill ar hyd Stryd Dulyn yn hwyrach yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a chodwyd tai ar safle’r ‘bason’ (cei’r gamlas) yn yr 1980au.

Roedd cartref Madock ei hun, Tan-yr-Allt, a ddaeth wedi hynny’n gartref i Shelley a sawl cenhedlaeth o berchnogion chwareli lleol, yn addasiad yn arddull y rhaglywiaeth o adeilad oedd yn bodoli eisoes ac mae hwn fymryn y tu allan i'r dref (ardal 4). Ganed T E Lawrence, yr awdur a’r milwr enwog, mewn ty yn y dref sydd ers hynny wedi’i droi’n Ganolfan Fynydda Gristnogol. Bu grwp adfywio brwd lleol, Cyfeillion Cadw Tremadog, yn allweddol yn y gwaith o ddiogelu cymeriad pensaernïol y pentref.

Os ydych am gael gwybod mwy, mae cofnod manwl o gynllunio, gosodiad, adeiladu a hanes cynnar Tremadog yn llyfr E Beazley, ‘Madocks and the wonder of Wales’.

Nodweddion hanesyddol allweddol yn y tirwedd

Pentref ystâd o ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Yn ogystal â’r sgwâr mawr a’r adeiladau o ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg sy’n ei amgylchynu, ceir nifer o adeiladau diweddarach o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn y cyffiniau. Tybir mai’r eglwys a godwyd ym 1812 yw'r eglwys hynaf yng Nghymru sy'n deillio o'r diwygiad Gothig (ac mae'n sefyll bron iawn gyferbyn â'r capel clasurol cynharaf yng Nghymru).

Pery’r Capel i gael ei ddefnyddio, ond mae’r eglwys ar hyn o bryd yn cael ei haddasu’n ganolfan gelf. Mae’r tai i gyd â phobl yn byw ynddynt ac mae yno siop a dwy dafarn fywiog yn ogystal â’r gwesty. Mae’r adeiladau sy’n rhan o gynllun gwreiddiol Madock yno o hyd, er bod gwaith carreg nifer ohonynt wedi’i guddio gan chwipiad o raean, a bod garej o ddiwedd yr ugeinfed ganrif wedi’i himpio ar y stryd o flaen yr adeiladau ar Heol Dulyn yn SH 5611 4017.
Mae nifer o nodweddion diwydiannol amlwg yn y pentref. Y fwyaf yw’r felin decstilau sylweddol iawn a godwyd c. 1807 yn SH 5639 4032 yn union i’r dwyrain o’r sgwâr, ynghyd â’r bythynnod i’r gweithwyr sy’n dal i fod yno. Mae’r felin yn wag ar hyn o bryd. < yn ôl at y map

© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl, Ymddiriedolaeth Archaeoloegol Gwynedd, 100017916 2005